鶹Լ

Hel pobl oedd yn canu yn Gymraeg o dafarn yng Nghonwy

Blue BellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jared Dunn fod y canu yn "uchel" a bod cwsmeriaid eraill yn gadael y dafarn heb orffen eu prydau bwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae landlord wedi amddiffyn penderfyniad i ofyn i gwsmeriaid oedd yn canu'n Gymraeg i stopio a gadael ei dafarn.

Dywedodd Jared Dunn fod criw o tua 30 o bobl wedi dechrau canu yn ystod prynhawn Sadwrn prysur yn y Blue Bell ar Stryd y Castell yng Nghonwy.

Dywedodd fod y canu "yn uchel a phobl yn gadael ...heb orffen eu bwyd".

"Rydyn ni wedi rhedeg y dafarn ers 11 mlynedd," ychwanegodd. "Nid lle ar gyfer canu ydy hwn."

Fe gyhoeddodd y cyflwynydd tywydd, Siân Lloyd, neges am y digwyddiad ar ei chyfrif X (Twitter gynt), gan ddweud: “Mae ffrindiau i mi newydd gael eu taflu allan am ganu yn eu mamiaith.”

Ychwanegodd ei bod yn "anodd credu bod tafarn mor ddychrynllyd yn bodoli yng Nghymru... gallwn ni naill ai ganu nerth ein pennau neu ei boicotio".

Ond dywedodd Mr Dunn: "Does gan hyn ddim i'w wneud â chanu yn Gymraeg.

“Rydyn ni’n cynnal noson meic agored ac mae gennym ni fandiau yn y dafarn ond roedd pobl jest yn dechrau canu.

“Pe baen nhw’n defnyddio vape tu mewn i’r dafarn fe fydden ni’n gofyn iddyn nhw adael – mae 'na reolau tŷ.”

'Cais rhesymol'

Dywedodd fod y porthor wedi gofyn i'r cantorion adael ar ôl i Mr Dunn eu clywed tra'n gweithio yn y gegin.

“Roedden nhw’n canu’r anthem genedlaethol oedd yn hyfryd, felly fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw stopio ar ôl iddyn nhw orffen ei chanu.

"Roedd y porthor yn delio â'r peth. Daeth porthor arall i mewn o'r drws nesaf."

Ychwanegodd Mr Dunn: "Mae'r dafarn er mwynhad pawb, a doedden nhw ddim yn cydymffurfio â chais rhesymol."

Wedi i Mr Dunn daro'n ôl fe gyhoeddodd Siân Lloyd neges newydd yn datgan: "Newydd gael sgwrs hyfryd gyda'r Jared yn The Blue Bell yng Nghonwy.

"Cytunon ni ar lawer o bethau, ond yn enwedig sut y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwyddo pethau yn anghymesur."

Ychwanegodd ei bod yn "edrych ymlaen nawr at ei gwrdd a thincian grwydriad o Guinness".

Pynciau cysylltiedig