Cymru v Armenia ar ddechrau penwythnos prysur i Gaerdydd

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr Cymru'n dathlu eu buddugoliaeth dros Latfia fis Mawrth

Mae'r capten Aaron Ramsey wedi dweud bod Cymru'n anelu am "frig y tabl" wrth iddyn nhw baratoi i herio Armenia nos Wener.

Bydd y crysau cochion yn gobeithio am dri phwynt arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn dilyn dechrau da eisoes i'w hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Euro 2024.

Daw'r gêm ar ddechrau penwythnos prysur i'r brifddinas, fydd yn cynnwys gigiau ar daith gomedi Peter Kay, cyngerdd Blondie a digwyddiad Pride Cymru hefyd.

Mae teithwyr eisoes wedi cael eu rhybuddio i wirio eu cynlluniau cyn teithio, gyda gwasanaethau trenau eisoes wedi'u heffeithio gan waith atgyweirio.

'Targedu chwe phwynt'

Dechreuodd ymgyrch ragbrofol Cymru'n addawol ym mis Mawrth, gyda buddugoliaeth dros Latfia yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Croatia "oedd yn teimlo fel buddugoliaeth".

"'Dyn ni wedi cael siom Cwpan y Byd allan o'n system ni nawr," meddai'r rheolwr Rob Page.

"Nos Wener [yn erbyn Armenia], allwn ni ddim poeni gormod am y gwrthwynebwyr.

"Mae'n rhaid i ni eu parchu nhw, ond mae hwn amdanom ni.

"Os allwn ni berfformio cystal ag y gallwn ni, 'dyn ni'n gallu herio unrhyw un."

Ar ôl croesawu Armenia i Gaerdydd, bydd Cymru'n teithio i Dwrci ar gyfer gornest yn ninas arfordirol Samsun nos Lun.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae David Brooks - Chwaraewr y Flwyddyn Cymru yn 2019 - bellach 'nôl yn y garfan ar ôl gwella o driniaeth ganser

Fe fyddan nhw wedyn hanner ffordd drwy'r ymgyrch, wedi chwarae yn erbyn pob un o'u gwrthwynebwyr unwaith.

Mae angen gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp er mwyn bod yn saff o gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.

"Rydyn ni eisiau chwe phwynt [o'r ddwy gêm nesaf] - dyna'r ffordd 'dyn ni'n meddwl," meddai Page.

"Os enillwch chi eich gemau cartref, a chael pwynt oddi cartref, mae hwnna'n sail dda."

Brooks yn barod?

Gyda Chymru 71 safle yn uwch nag Armenia yn rhestr detholion y byd, mae disgwyl buddugoliaeth.

Ond ar ôl dim ond curo Latfia, detholion isaf y grŵp, o 1-0 ym mis Mawrth, mae Aaron Ramsey'n cyfaddef nad yw "gemau fel hyn yn hawdd".

"'Dych chi'n chwarae yn erbyn timau sydd yn gwybod beth maen nhw'n 'neud - bloc isel, gwrthymosod yn dda," meddai.

"Mae angen i ni fod yn amyneddgar, peidio gorfodi pethau."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Aaron Ramsey yw capten Cymru bellach ers ymddeoliad Gareth Bale

Mae Page wedi gallu dewis mwy neu lai ei garfan gryfaf ar gyfer y ddwy ornest, gyda'r profiadol Ben Davies a Wayne Hennessey bellach wedi gwella o anafiadau a olygodd eu bod wedi methu gemau mis Mawrth.

Bydd Brennan Johnson hefyd yn holliach ar ôl gorfod tynnu 'nôl o'r garfan i wynebu Croatia a Latfia, tra bod Neco Williams hefyd wedi gwella ar ôl torri ei ên.

Mae David Brooks hefyd wedi'i enwi yn y garfan am y tro cyntaf ers dychwelyd yn dilyn triniaeth ganser, a dywedodd Page fod yr asgellwr wedi bod dangos agwedd "anhygoel".

"Mae'n afrealistig mae'n siŵr i ddisgwyl iddo ddechrau'r ddwy gêm, ond bydd 'na gyfleoedd iddo fod yn rhan o bethau," meddai'r rheolwr.

Rhybudd teithio

Mae trigolion ac ymwelwyr i Gaerdydd eisoes wedi cael eu rhybuddio am y penwythnos prysur o'u blaenau, wrth i sawl digwyddiad gael ei gynnal yn y brifddinas dros y penwythnos.

Yn dilyn 12 mlynedd o saib, mae'r digrifwr adnabyddus Peter Kay ar daith unwaith eto ac mae ganddo ddwy noson yn Arena Rhyngwladol Caerdydd ar 16 a 17 Mehefin.

Nos Wener bydd y band roc Americanaidd, Blondie, hefyd yn chwarae yng Nghastell Caerdydd - ond does dim cynlluniau i gau ffyrdd yng nghanol y ddinas oherwydd hynny.

Mewn gig roc arall ar yr un noson bydd y band o Fanceinion, Inspiral Carpets, hefyd yn chwarae yn Tramshed.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis

Disgrifiad o'r llun, Mae digwyddiad blynyddol Pride Cymru wastad yn denu miloedd o bobl i Gaerdydd

Bydd digwyddiadau blynyddol Pride Cymru hefyd yn dychwelyd dros y penwythnos, gyda disgwyl i rai o strydoedd canol y ddinas fod ar gau am gyfnodau yn ystod dydd Sadwrn.

Fe fydd yr ŵyl yn cynnwys gorymdaith o du allan i Gastell Caerdydd, ac ymhlith y rheiny fydd yn ymddangos mae The Feeling, Sophie Ellis-Bextor, a Claire Richards ac Ian 'H' Watkins o Steps.

Bydd Gemau Stryd yr Urdd hefyd yn cael eu cynnal yn y Bae, gyda gweithgareddau gan gynnwys beicio BMX, sglefrfyrddio, pêl-fasged 3x3, a dawnsio stryd.

Oherwydd gwaith atgyweirio i Dwnnel Hafren fodd bynnag, mae teithiau trên rhwng Caerdydd a Bryste wedi eu heffeithio am y tro ac mae teithwyr wedi cael rhybudd i wirio pa wasanaethau sy'n rhedeg.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw hefyd wedi trefnu un trên ychwanegol yn ôl i'r gogledd, gyda hwnnw'n gadael Caerdydd Canolog am Wrecsam am 22:09 wedi'r pêl-droed.