Etholiad: Costau byw, cyffuriau ac iechyd ar y meddwl

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae etholaeth Gorllewin Abertawe yn gorwedd o fewn sedd sy鈥檔 draddodiadol ddiogel i鈥檙 Blaid Lafur
  • Awdur, Meleri Williams
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae costau byw, camddefnydd cyffuriau ac iechyd yn bethau sy鈥檔 poeni pobl yng ngorllewin Abertawe.

Mae鈥檙 etholaeth 鈥 sy鈥檔 cynnwys ardal Mayhill, canol y ddinas, Sgeti, Blaenymaes a Threforys - yn gorwedd o fewn sedd sy鈥檔 draddodiadol ddiogel i鈥檙 Blaid Lafur.

Ond mae鈥檙 dewis o ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni wedi wynebu beirniadaeth gan bobl leol ac aelodau鈥檙 blaid, sy鈥檔 dweud nad oes ganddo gysylltiad 芒鈥檙 ardal.

Gyda diwrnod y bleidlais yn nes谩u, mae pobl leol yn dweud mai鈥檙 flaenoriaeth yw gweld newid ar garreg y drws.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Pris bwyd sy'n bryder i Katie Evans

Mewn Cylch Ti a Fi yn Sgeti, mae costau byw yn bwnc sy鈥檔 cael ei drafod yn aml ymhlith mamau lleol.

鈥淐ael golau arno, neu goginio, ma鈥 hwnna wedi mynd lan,鈥 dywedodd Katie Evans, 32, sy鈥檔 fam i ddau.

鈥淵 bwyd yn Tesco, Asda, ma鈥 hwnna wedi mynd lan hefyd. Normally byddet ti鈥檔 mynd mewn a bydde small shop yn costio ti 拢50. Mae gymaint [yn fwy].鈥

Disgrifiad o'r llun, 鈥淢ae costau鈥檔 codi bob blwyddyn. Mae鈥檔 anodd," meddai Sarah Dorsett

Dywedodd Sarah Dorsett, 38, sy鈥檔 fam i ddau, bod cost gofal plant 鈥渇el cael ail forgais鈥.

鈥淢ae costau鈥檔 codi bob blwyddyn. Mae鈥檔 anodd.鈥

Disgrifiad o'r llun, 鈥淔e drodd fy mab yn dair fis Mawrth, ond mae鈥檙 meithrin leol yn llawn,鈥 dywedodd Lizzie Lewis

Er yn faes sydd wedi ei ddatganoli, addysg Gymraeg yn yr ardal sy鈥檔 poeni Lizzie Lewis, 31.

Mae sawl ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal yn agos at fod yn orlawn.

鈥淔e drodd fy mab yn dair fis Mawrth, ond mae鈥檙 meithrin lleol yn llawn,鈥 dywedodd.

鈥淢ae 'na alw mawr am addysg Gymraeg yn yr ardal, ond dim digon o ddarpariaeth.鈥

Disgrifiad o'r llun, 鈥淢ae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol,鈥 dywedodd Seb

Yn ardal Townhill, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy鈥檔 poeni pobl.

Tair blynedd yn 么l fe welodd ardal Mayhill geir ar d芒n a briciau鈥檔 cael eu taflu drwy ffenestri mewn anhrefn.

Er yn rhy ifanc i bleidleisio, mae Seb, 16, sy鈥檔 gwirfoddoli mewn canolfan gymunedol yno, yn poeni am faterion lleol.

鈥淢ae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol,鈥 dywedodd, 鈥渙 gyffuriau i feiciau modur鈥.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淐yffuriau yw鈥檙 un聽important. Mae e ymhob man," meddai Beverly Williams

Cyffuriau sy鈥檔 poeni Beverly Williams, 45, hefyd.

鈥溾橶y'n mynd i [bleidleisio]. 'Wy鈥檔 meddwl ei bod yn really bwysig i wneud hynny,鈥 dywedodd.

鈥淐yffuriau yw鈥檙 un聽important. Mae e ymhob man. 'Wy'n poeni am bobl ifanc.鈥

Disgrifiad o'r llun, "Ni lan fan hyn yn wahanol iawn i lawr yn y ddinas,鈥 dywedodd Maria Williams

Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl yr ardal, yn 么l Maria Williams, 38.

鈥淢a' dal llawer mwy y鈥檔 ni鈥檔 mo鈥檡n gweld. Ni lan fan hyn yn wahanol iawn i lawr yn y ddinas,鈥 dywedodd.

Yn dilyn newid yn ffiniau鈥檙 etholaethau, mae Treforys bellach yn rhan o etholaeth Gorllewin Abertawe.

Gydag un o ysbytai mwyaf Cymru, ac adran frys, ar garreg y drws, dydy hi ddim yn syndod mai iechyd sy鈥檔 poeni pobl yno.

Er yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, dywedodd Rhian Williams, ysgrifennydd Capel Tabernacl y dref, fod rhestrau aros yn bwnc trafod mawr ymysg aelodau cyn yr etholiad.

鈥淚echyd yw鈥檙 peth mwya' pwysig i bobl yn yr ardal 'ma ar hyn o bryd,鈥 dywedodd.

鈥淔aint o amser mae鈥檔 rhaid iddyn nhw aros i weld rhywun.

鈥淢aen nhw鈥檔 aros am glun newydd, pen-glin, ma' nhw wedi colli annibyniaeth.鈥

Beth yw cynnig yr ymgeiswyr?

Disgrifiad o'r llun, Ymgeisydd Llafur, Torsten Bell, ac ymgeisydd Plaid Cymru, Gwyn Williams

Dywedodd ymgeisydd Llafur, Torsten Bell, y byddai鈥檔 sicrhau mwy o 鈥渟wyddi da鈥, rhoi 鈥渕wy o arian tuag at y GIG鈥 ac yn 鈥渄efnyddio potensial ynni adnewyddol yng Nghymru ac Abertawe鈥.

Byddai ymgeisydd Plaid Cymru, Gwyn Williams, yn 鈥渃efnogi鈥檙 GIG鈥, yn 鈥渃efnogi gweithwyr dur Tata鈥 ac yn 鈥渂rwydro dros yr etholaeth鈥 gan ei fod 鈥測n dod o鈥檙 etholaeth鈥.

Disgrifiad o'r llun, Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike O鈥機arroll, ac ymgeisydd Reform UK, Patrick Benham-Crosswell

Ffocws ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike O鈥機arroll, meddai, yw 鈥渢rwsio鈥檙 GIG鈥, 鈥渂uddsoddi yn y system gofal cymdeithasol鈥 a 鈥済lanhau ein hamgylchedd鈥.

Dywedodd ymgeisydd Reform UK, Patrick Benham-Crosswell, ei fod wedi 鈥渂wriadu byw yn Abertawe ers blynyddoedd鈥 a bod angen 鈥渓lywodraethiant da鈥 ar yr ardal a 鈥渕wy o arian ym mhocedi pobl鈥.

Mae鈥檙 ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr, Tara-Jane Sutcliffe, a Peter Jones o鈥檙 Blaid Werdd wedi cael cais am gyfweliad.

Gareth Bromhall yw鈥檙 ymgeisydd ar ran Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialaidd Cymru.