鶹Լ

Etholiad: Costau byw, cyffuriau ac iechyd ar y meddwl

AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae etholaeth Gorllewin Abertawe yn gorwedd o fewn sedd sy’n draddodiadol ddiogel i’r Blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd

Mae costau byw, camddefnydd cyffuriau ac iechyd yn bethau sy’n poeni pobl yng ngorllewin Abertawe.

Mae’r etholaeth – sy’n cynnwys ardal Mayhill, canol y ddinas, Sgeti, Blaenymaes a Threforys - yn gorwedd o fewn sedd sy’n draddodiadol ddiogel i’r Blaid Lafur.

Ond mae’r dewis o ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni wedi wynebu beirniadaeth gan bobl leol ac aelodau’r blaid, sy’n dweud nad oes ganddo gysylltiad â’r ardal.

Gyda diwrnod y bleidlais yn nesáu, mae pobl leol yn dweud mai’r flaenoriaeth yw gweld newid ar garreg y drws.

Ffynhonnell y llun, 鶹Լ
Disgrifiad o’r llun,

Pris bwyd sy'n bryder i Katie Evans

Mewn Cylch Ti a Fi yn Sgeti, mae costau byw yn bwnc sy’n cael ei drafod yn aml ymhlith mamau lleol.

“Cael golau arno, neu goginio, ma’ hwnna wedi mynd lan,” dywedodd Katie Evans, 32, sy’n fam i ddau.

“Y bwyd yn Tesco, Asda, ma’ hwnna wedi mynd lan hefyd. Normally byddet ti’n mynd mewn a bydde small shop yn costio ti £50. Mae gymaint [yn fwy].”

Disgrifiad o’r llun,

“Mae costau’n codi bob blwyddyn. Mae’n anodd," meddai Sarah Dorsett

Dywedodd Sarah Dorsett, 38, sy’n fam i ddau, bod cost gofal plant “fel cael ail forgais”.

“Mae costau’n codi bob blwyddyn. Mae’n anodd.”

Disgrifiad o’r llun,

“Fe drodd fy mab yn dair fis Mawrth, ond mae’r meithrin leol yn llawn,” dywedodd Lizzie Lewis

Er yn faes sydd wedi ei ddatganoli, addysg Gymraeg yn yr ardal sy’n poeni Lizzie Lewis, 31.

Mae sawl ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal yn agos at fod yn orlawn.

“Fe drodd fy mab yn dair fis Mawrth, ond mae’r meithrin lleol yn llawn,” dywedodd.

“Mae 'na alw mawr am addysg Gymraeg yn yr ardal, ond dim digon o ddarpariaeth.”

Disgrifiad o’r llun,

“Mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol,” dywedodd Seb

Yn ardal Townhill, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n poeni pobl.

Tair blynedd yn ôl fe welodd ardal Mayhill geir ar dân a briciau’n cael eu taflu drwy ffenestri mewn anhrefn.

Er yn rhy ifanc i bleidleisio, mae Seb, 16, sy’n gwirfoddoli mewn canolfan gymunedol yno, yn poeni am faterion lleol.

“Mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol,” dywedodd, “o gyffuriau i feiciau modur”.

Disgrifiad o’r llun,

“Cyffuriau yw’r un important. Mae e ymhob man," meddai Beverly Williams

Cyffuriau sy’n poeni Beverly Williams, 45, hefyd.

“’Wy'n mynd i [bleidleisio]. 'Wy’n meddwl ei bod yn really bwysig i wneud hynny,” dywedodd.

“Cyffuriau yw’r un important. Mae e ymhob man. 'Wy'n poeni am bobl ifanc.”

Disgrifiad o’r llun,

"Ni lan fan hyn yn wahanol iawn i lawr yn y ddinas,” dywedodd Maria Williams

Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl yr ardal, yn ôl Maria Williams, 38.

“Ma' dal llawer mwy y’n ni’n mo’yn gweld. Ni lan fan hyn yn wahanol iawn i lawr yn y ddinas,” dywedodd.

Yn dilyn newid yn ffiniau’r etholaethau, mae Treforys bellach yn rhan o etholaeth Gorllewin Abertawe.

Gydag un o ysbytai mwyaf Cymru, ac adran frys, ar garreg y drws, dydy hi ddim yn syndod mai iechyd sy’n poeni pobl yno.

Er yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, dywedodd Rhian Williams, ysgrifennydd Capel Tabernacl y dref, fod rhestrau aros yn bwnc trafod mawr ymysg aelodau cyn yr etholiad.

“Iechyd yw’r peth mwya' pwysig i bobl yn yr ardal 'ma ar hyn o bryd,” dywedodd.

“Faint o amser mae’n rhaid iddyn nhw aros i weld rhywun.

“Maen nhw’n aros am glun newydd, pen-glin, ma' nhw wedi colli annibyniaeth.”

Beth yw cynnig yr ymgeiswyr?

Disgrifiad o’r llun,

Ymgeisydd Llafur, Torsten Bell, ac ymgeisydd Plaid Cymru, Gwyn Williams

Dywedodd ymgeisydd Llafur, Torsten Bell, y byddai’n sicrhau mwy o “swyddi da”, rhoi “mwy o arian tuag at y GIG” ac yn “defnyddio potensial ynni adnewyddol yng Nghymru ac Abertawe”.

Byddai ymgeisydd Plaid Cymru, Gwyn Williams, yn “cefnogi’r GIG”, yn “cefnogi gweithwyr dur Tata” ac yn “brwydro dros yr etholaeth” gan ei fod “yn dod o’r etholaeth”.

Disgrifiad o’r llun,

Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike O’Carroll, ac ymgeisydd Reform UK, Patrick Benham-Crosswell

Ffocws ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike O’Carroll, meddai, yw “trwsio’r GIG”, “buddsoddi yn y system gofal cymdeithasol” a “glanhau ein hamgylchedd”.

Dywedodd ymgeisydd Reform UK, Patrick Benham-Crosswell, ei fod wedi “bwriadu byw yn Abertawe ers blynyddoedd” a bod angen “llywodraethiant da” ar yr ardal a “mwy o arian ym mhocedi pobl”.

Mae’r ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr, Tara-Jane Sutcliffe, a Peter Jones o’r Blaid Werdd wedi cael cais am gyfweliad.

Gareth Bromhall yw’r ymgeisydd ar ran Clymblaid Undebwyr Llafur a Sosialaidd Cymru.