Noel Thomas yn dathlu yng ngwobrau'r NTA's yn Llundain

Disgrifiad o'r llun, Roedd y Cymro a'r cyn is-bostfeistr Noel Thomas (ail o'r dde) yng ngwobrau'r NTA's nos Fercher

Fe gipiodd y ddrama 'Mr Bates v The Post Office' dair gwobr yng ngwobrau'r National Television Awards yn Llundain nos Fercher.

Roedd y ddrama, a gafodd ei chynhyrchu gan ITV, yn bwrw golwg ar sgandal Swyddfa'r Post pan gafodd is-bostfeistri eu dedfrydu ar gam yn sgil methiannau i system gyfrifiadurol Horizon IT.

Roedd y Cymro a'r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'r actor Ifan Huw Dafydd - oedd yn portreadu Noel Thomas yn y ddrama - yn y gwobrau yn yr O2 yn Llundain.

Cipiodd y ddrama y wobr am y ddrama orau a gwobr arbennig oedd yn cydnabod dylanwad y gyfres.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Noel Thomas o Ynys Môn ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon

Cafodd Noel Thomas o Ynys Môn ei garcharu ar gam am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Dyfarnodd yr Uchel Lys yn ddiweddarach bod nam ar system gyfrifiadurol Horizon, ac mai dyna arweiniodd at erlyniadau anniogel gan Swyddfa'r Post.

Cafodd yr euogfarnau yn erbyn Noel Thomas a 38 o is-bostfestri eraill eu gwyrdroi yn y Llys Apêl yn 2021.

Ffynhonnell y llun, Ifan Huw Dafydd

Disgrifiad o'r llun, Yr actor Ifan Huw Dafydd oedd yn portreadu y cyn is-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, yn y ddrama

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Ifan Huw Dafydd ei fod yn "anrhydedd mawr iawn i bortreadu" Noel Thomas yn y ddrama "a chael bod yng nghwmni Noel" yng ngwobrau'r NTA's nos Fercher.

Wrth siarad am y rhai sydd wedi eu dedfrydu ar gam, dywedodd eu bod "wedi diodde' gymaint dros y blynyddoedd diwethaf ac yn dal i wneud".

"Oedd neithiwr yn tanlinellu'r haeddiant oedd gyda nhw."

Dywedodd fod y cynhyrchiad yn "anhygoel" a'i fod yn "deimlad anhygoel i fod ar y set".

Aeth ymlaen i ddweud fod "pob ychwanegolyn oedd ar y set 'na eisiau cael gwybod beth oedd dy stori".

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Fe gipiodd yr actor Toby Jones wobr am chwarae rhan yr is-bostfeistr Syr Alan Bates

Fe enillodd yr actor Toby Jones, a oedd yn chwarae cymeriad yr is-bostfeistr Syr Alan Bates, wobr yr actor gorau mewn drama.

Roedd Alan Bates o ardal Llandudno yn un o dros 550 o bobl sydd wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post yn sgil sgandal Horizon.

Dywedodd Toby Jones fod y gwobrau yn "gyfle gwych i ail osod y pwysau" ar y llywodraeth newydd i roi iawndal i is-bostfeistri cyn diwedd y flwyddyn.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio bydd y ddrama yn sbardun i "fwy o ddramâu i gael effaith uniongyrchol ar bolisïau".