Cyhuddo dyn o drosedd hiliol yng Nghaernarfon

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyhuddiad yn dilyn digwyddiad ar Stryd Llyn brynhawn Gwener

Mae dyn 36 oed wedi cael ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â hiliaeth ar ôl digwyddiad yng Nghaernarfon.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y cyhuddiad yn dilyn digwyddiad ar Stryd Llyn yn y dref brynhawn Gwener.

Mae Michael Owen Williams wedi cael ei gyhuddo o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.