鶹Լ

Meddygon wedi 'anwybyddu'r amlwg' cyn marwolaeth menyw

Nesta JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd merch Nesta Jones ei bod wedi codi pryderon am gyflwr pen-glin ei mam gyda meddygon yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu cyn-athrawes wedi dweud bod meddygon wedi methu sawl cyfle i ddod o hyd i achos haint cyn iddi farw.

Clywodd cwest bod Nesta Jones, 77, wedi ei derbyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ddiwedd mis Mawrth 2017.

Roedd hynny ar gyngor ei meddyg teulu, oedd o'r farn ei bod hi’n dioddef o arthritis septig yn ei phen-glin.

Dywedodd merch Mrs Jones wrth y cwest yng Nghaernarfon ei bod wedi codi pryderon sawl tro am ben-glin "coch a chwyddedig" ei mam.

Bu farw Mrs Jones yn Ysbyty Gwynedd ar 8 Mai, 2017.

Pen-glin yn 'goch a chwyddedig'

Cafodd Mrs Jones, o'r Fali ar Ynys Môn, lawdriniaeth yn 2015 i gael pen-glin newydd ar y goes chwith, oherwydd arthritis.

Ym Mawrth 2017, cafodd ei derbyn i'r ysbyty yn dilyn pryderon ei meddyg teulu dros arthritis septig.

Ond dywedodd merch Mrs Jones, Siwsan Jones, nad oedd meddygon wedi gallu dod o hyd i ffynhonnell yr haint yn ei chorff.

Dywedodd Siwsan Jones ei bod hi wedi ceisio tynnu sylw’r meddygon at ben-glin "coch a chwyddedig" ei mam sawl gwaith yn ystod yr wythnosau roedd ei mam yn yr ysbyty.

Disgrifiodd Siwsan Jones y problemau gyda phen-glin ei mam fel yr "eliffant yn yr ystafell".

Fodd bynnag, dywedodd Siwsan Jones bod ei mam yn destun sawl ymchwiliad a phrawf, oedd yn aml yn golygu nad oedd yn gallu bwyta nac yfed.

"Roedd yn teimlo fel rhyw fath o scattergun approach - roedd ymchwiliadau newydd yn cael eu hailadrodd heb reswm", meddai.

Dywedodd fod posteri yn ward ei mam yn disgrifio symptomau haint sepsis.

"Ro’n i’n teimlo'n fwyfwy rhwystredig dros amser", meddai.

"Tynnais sylw at y posteri a dweud 'Pam ydych chi’n anwybyddu'r amlwg?'"

Ychwanegodd: “Os yw’n siarad fel hwyaden, ac os yw’n cerdded fel hwyaden, hwyaden ydyw.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd pryderon y teulu eu codi gyda’r timau clinigol sawl gwaith, gan gynnwys mewn llythyr at dîm cwynion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ond ni chafodd ymchwiliad corfforol ei gynnal ar ben-glin Nesta Jones i ddarganfod os oedd haint yno trwy ddraenio hylif ei wneud tan ddechrau mis Mai.

Dywedodd ei merch fod y prawf wedi datgelu bod crawn [pus] ym mhen-glin ei mam.

Parhau i ddirywio wnaeth cyflwr Nesta Jones, a datblygodd niwmonia, gan farw ar 8 Mai, 2017.

Dywedodd ei merch fod tystysgrif y farwolaeth yn nodi bod ei mam wedi marw o ganlyniad i gymhlethdodau henaint.

“Ro’n i’n teimlo’n anhapus iawn am hynny, gan nad oeddwn i’n meddwl bod hynny’n rhoi’r stori lawn am yr hyn a ddigwyddodd i fy mam”, meddai.

Mae'r cwest yn parhau ac mae disgwyl iddo bara pythefnos.

Pynciau cysylltiedig