麻豆约拍

'Cyhoeddi cytundeb rygbi ar ddiwrnod angladd Dad'

Deian Gwynne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Deian Gwynne yn hyfforddi gyda th卯m dan-20 Cymru ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn dathlu wrth i dri o鈥檜 chwaraewyr ddod 芒鈥檙 clwb i sylw cenedlaethol a thu hwnt.

Mae Deian Gwynne, sy鈥檔 hyfforddi gyda th卯m dan-20 Cymru ar hyn o bryd, newydd gael gwybod ei fod yn cael hyfforddi gyda th卯m cyntaf Caerloyw.

Ond er y llawenydd, roedd y profiad yn anodd wrth i鈥檙 cytundeb gael ei gyhoeddi ar ddiwrnod angladd ei dad, Dewi Gwynne, un o hoelion wyth Clwb Rygbi Aberystwyth.

鈥淵n ffodus roedd Dad yn gwybod am y cytundeb cynt ac mae e wastad wedi bod mor prowd o be鈥 fi wedi 'neud ar y cae rygbi,鈥 medd Deian Gwynne, 18, wrth siarad 芒 Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Byddai Dad (Dewi Gwynne) yn browd iawn ohonai,' meddai Deian Gwynne

鈥淵n gynharach eleni ges i gap yn chwarae i d葖m dan-18 Cymru ac fe fues i鈥檔 chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad.

鈥淕es i'r cap cyntaf yn erbyn Yr Alban - enillon ni. Yna mas i Iwerddon ac ennill fanna eto yn erbyn t葖m cryf.

鈥淢ae wedi bod y anodd yn y misoedd diwethaf ond o鈥檔 i鈥檔 falch bod Dad yn gwylio fi yn cael y cap cyntaf yn erbyn Yr Alban ym mis Mawrth. O鈥檇d e wedi dod mas i Iwerddon hefyd, chwarae teg, er nad oedd ei iechyd yn dda. Odd e鈥檔 prowd iawn.

"Roedd e hefyd yn falch iawn o'i frawd Eifion Gwynne oedd yn chwaraewr rygbi ardderchog."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dewi Gwynne yn adeiladwr ac yn gyd-berchennog ar fwytai y Cross Foxes ger Dolgellau a鈥檙 Hafod ym Mhontarfynach

Mae Deian yn un o鈥檙 rhai ieuengaf i gael ei ddewis i hyfforddi gyda th葖m Cymru o dan 20.

Fe fydd y bencampwriaeth y cael ei chynnal yn Ne Affrica rhwng 29 Mehefin a 19 Gorffennaf ac mae Cymru yn yr un gr诺p 芒 Ffrainc, Seland Newydd a Sbaen.

鈥淔i鈥檔 edrych ymlaen. Mae鈥檔 galed ond yn dda a ni鈥檔 dysgu lot. Mae鈥檙 hyfforddi yn digwydd yn y Vale ym Mhont-y-clun a fi鈥檔 aros mewn gwesty gan bo' fi鈥檔 byw mor bell.

鈥淒wi wastad wedi chwarae rygbi ac ro鈥檇d Dad yn hyfforddi.

"Fues i鈥檔 chwarae yn ysgol Penllwyn yng Nghapel Bangor, gyda thimau Aberystwyth, yna gyda鈥檙 Scarlets West ac yna es i Hartpury yn y chweched 鈥 ac ydy mae鈥檔 t卯m ni yno wedi cael cryn lwyddiant 鈥 fyddai wastad yn ddiolchgar i glwb Aberystwyth.鈥

Dewi Gwynne yn 'arwr'

Mae colli Dewi Gwynne, a oedd hefyd yn adeiladwr ac yn gyd-berchennog ar fwytai y Cross Foxes ger Dolgellau a鈥檙 Hafod ym Mhontarfynach, yn ergyd fawr i Glwb Rygbi Aberystwyth.

鈥淩oedd e鈥檔 arwr, absolute hero i ni fan hyn yn Aberystwyth. O鈥檇d e鈥檔 gyn-chwaraewr, yn gyn-gapten ddwywaith ac yn un o hoelion wyth y clwb,鈥 medd Nerys Hywel, cadeirydd y clwb.

鈥淥'dd e wastad yma yn cefnogi 鈥 dim ots os oedd Deian yn chwarae neu beidio. O'dd e 'ma yn cefnogi'r ieuenctid, y t卯m h欧n - pawb.

鈥淥'dd e wastad yn siarad 芒 phawb ac yn canmol y bois - bob un ohonynt.

"Mae鈥檔 golled enfawr i ni gyd 鈥 yn enwedig i鈥檙 teulu ond ni gyd y tu 么l iddyn nhw fel clwb ac maen nhw鈥檔 gwybod hynny.鈥

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deian Gwynne a Steffan Jac Jones - y ddau wedi dod 芒 bri i Glwb Rygbi Aberystwyth

Y ddau chwaraewr arall sydd wedi dod 芒 chlod i鈥檙 clwb yw Joshua Hathaway sy鈥檔 chwarae i d卯m cyntaf Caerloyw ac sydd wedi chwarae i d卯m dan-20 Cymru a Lloegr a Steffan Jac Jones sydd hefyd wedi ennill cap ac yn hyfforddi gyda鈥檙 t卯m dan-20 a鈥檙 Scarlets.

Mae cael cymaint o chwaraewyr yn nhimau Cymru 鈥 a Lloegr 鈥 yn bluen fawr yn het y clwb ond gydag Aberystwyth yn bell o鈥檙 clybiau eraill dyw hi ddim yn hawdd sicrhau bod y bechgyn yn cael eu gweld gan y dewiswyr.

'Ddim mo'yn cael ein anghofio'

鈥淵r unig broblem sy 鈥榙a ni fan hyn yw鈥檔 lleoliad ni. Y tueddiad yw maen nhw鈥檔 anghofio amdanon ni. Does dim lot yn lico teithio i Aber,鈥 medd Nerys Hywel, y cadeirydd benywaidd cyntaf ar glwb rygbi yng Nghymru.

鈥淢ae wastad ryw hurdle 'da ti pwy sy鈥檔 fodlon teithio ond dan ni鈥檔 arwain y ffordd achos ni鈥檔 fodlon trafaelu am g锚m 鈥 fi ishe鈥檙 gorau i鈥檙 plant a bod pobl yn gweld nhw. Mae鈥檔 bwysig cadw clybiau fel hyn i fynd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deian Gwynne a chadeirydd y clwb, Nerys Hywel

鈥淢ae gyda ni ryw 200 o chwaraewyr yn y criw ieuenctid. Does dim lot o glybiau yng Nghymru gyda bob oedran 鈥 o dan-saith trwyddo i o dan-16 yn yr adran iau. Ni鈥檔 'neud yn arbennig o dda.

鈥淢a fe鈥檔 bwysig, maen nhw鈥檔 cael eu hyfforddi unwaith yr wythnos, maen nhw鈥檔 cael gemau, maen nhw鈥檔 cael amser gyda鈥檌 gilydd. Maen nhw鈥檔 cael yr hyfforddiant gorau, fi鈥檔 credu, yng Nghymru.

鈥淢ae鈥檙 rhan fwyaf sy鈥檔 hyfforddi wedi bod yn chwaraewyr y dre eu hunain. Maen nhw鈥檔 rhoi n么l i鈥檙 clwb ac mae hwnna鈥檔 werthfawr.鈥

Ym mis Hydref mae Deian Gwynne yn gobeithio mynd i鈥檙 brifysgol yng Nghaerloyw ond fydd e fyth yn anghofio ei wreiddiau yn Aberystwyth ac mae鈥檙 cadeirydd a鈥檙 clwb yn falch o hynny.

鈥淢ae鈥檔 fraint i ni fel clwb i gael cynrychiolwyr fel Deian. Mae Deian wedi 'neud yn anhygoel o dda," medd Nerys Hywel.

鈥淢ae Deian wedi bod yn rhan bwysig o鈥檙 t葖m. Mae fe wedi bod yn ddylanwad da ar lot o鈥檙 bois. Mae鈥檙 bois ieuengach yn edrych lan iddo fe.

鈥淒yw e byth yn anghofio Clwb Rygbi Aberystwyth lle dechreuodd e, sy鈥檔 bwysig i ni, achos pobl fel'na sy鈥檔 mynd i chwifio'r fflag i ni.鈥

Pynciau cysylltiedig