Â鶹ԼÅÄ

Liam Williams a Cory Hill yng ngharfan gemau haf Cymru

Liam Williams a Cory HillFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Williams a Cory Hill yn dychwelyd i garfan Cymru ar ôl chwarae i glybiau yn Japan

  • Cyhoeddwyd

Mae Liam Williams a Cory Hill wedi cael eu galw'n ôl yn annisgwyl i garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau prawf yr haf.

Mae'r ddau wedi bod yn chwarae yn Japan, a bydd Hill yn helpu llenwi bwlch yn yr ail reng - dair blynedd wedi ei gap diwethaf.

Mae canolwr Caerloyw, Josh Hathaway, ymhlith pedwar sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan Warren Gatland i wynebu De Affrica ac Awstralia a allai ennill eu capiau cyntaf i Gymru.

Y tri arall sydd yn y garfan hyfforddi o 35 yw asgellwr y Gweilch, Keelan Giles, a dau o chwaraewyr Caerdydd, y cefnwr Jacob Beetham a'r mewnwr Ellis Bevan.

Saib 'bwriadol' i Rowlands, Adams ac Elias

Bydd Cymru'n wynebu De Affrica yn Twickenham ar 22 Mehefin - gêm sydd tu hwnt i'r cyfnod prawf swyddogol sy'n golygu na fydd sawl aelod sy'n chwarae i glybiau tu hwnt i Gymru ar gael.

Fe fydd maint y garfan yn cael ei ei docio i 34 cyn dwy gêm brawf yn erbyn Awstralia ym mis Gorffennaf.

Ni fydd Will Rowlands, Josh Adams na Ryan Elias yn rhan o'r ymgyrch yn dilyn "penderfyniad bwriadol" i roi saib iddyn nhw dros yr haf.

Hefyd yn absennol mae'r blaenasgellwr Alex Mann a'r maswr Ioan Lloyd, a Sam Costelow yw'r unig chwaraewr Rhif 10 arbenigol sydd wedi ei gynnwys.

Ymhlith y chwaraewyr sy'n dychwelyd i'r garfan mae canolwr Caerdydd Ben Thomas a chwaraewr ail reng y Dreigiau Matthew Screech.

Mae'r cyd-gapteiniaid yng Nghwpan y Byd, Jac Morgan a Dewi Lake, hefyd yn dychwelyd ar ôl methu gemau'r Chwe Gwlad gydag anafiadau, er dydy Gatland heb enwi capten ar gyfer gemau'r haf eto.

'Parhau i edrych tua'r dyfodol' - dadansoddiad Cennydd Davies, gohebydd chwaraeon

Yr enw annisgwyl yn y garfan o 36 ar gyfer y ddwy gêm brawf yn erbyn Awstralia a’r ornest yn erbyn De Affrica yw Josh Hathaway – gŵr oedd yn cynrychioli tîm dan-20 Lloegr y llynedd, ond yn hannu o ardal Aberystwyth ac sydd wedi cynrychioli timoedd ieuenctid Cymru.

Mae Hathaway yn un o bedwar sydd eto i ennill capiau rhyngwladol ynghyd â Jacob Beetham ac Ellis Bevan o Gaerdydd ac asgellwr y Gweilch, Keelan Giles.

Mae Warren Gatland yn parhau i edrych tua’r dyfodol wrth roi pwyslais ar y genhedlaeth nesaf, ond mi fydd hi’n dipyn o hwb croesawu cyd-gapteiniaid Cymru yng Nghwpan y Byd, Jac Morgan a Dewi Lake ynghyd â Taine Plumtree a Christ Tshiunza ar ôl colli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.

Ar ôl dros flwyddyn o rygbi di-dor dyw hi ddim yn syndod fod rhai yn cael eu gorffwys a dyna’r esboniad tu ôl i absenoldeb Will Rowlands , Josh Adams a Ryan Elias.

Mi fydd 'na dipyn o gyfrifoldeb ar Sam Costelow - yr unig faswr sydd wedi'i gynnwys gyda’r anlwcus Ioan Lloyd ddim yno y tro hwn.

Dau ŵr arall sy’n ychwanegu tipyn o brofiad yw Liam Williams a Cory Hill - y naill a’r llall wedi bod yn chwarae allan yn Japan, a Hill yn dychwelyd i’r garfan ryngwladol am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

Manylion gemau cyfres yr haf

22 Mehefin - De Affrica (Twickenham)

6 Gorffennaf - Awstralia (Sydney)

13 Gorffennaf - Awstralia (Melbourne)

19 Gorffennaf - Queensland Reds (Brisbane)

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Corey Domachowski (Caerdydd), Kemsley Mathias (Scarlets), Gareth Thomas (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Dewi Lake (Gweilch), Evan Lloyd (Caerdydd), Sam Parry (Gweilch), Keiron Assiratti (Caerdydd), Archie Griffin (Caerfaddon), Dillon Lewis (Harlequins) Harri O'Connor (Scarlets), Henry Thomas (Castres Olympique), Ben Carter (Dreigiau), Cory Hill (Secom Rugguts), Dafydd Jenkins (Caerwysg), Matthew Screech (Dreigiau), Christ Tshiunza (Caerwysg), Mackenzie Martin (Caerdydd), Jac Morgan (Gweilch), Taine Plumtree (Scarlets), Tommy Reffell (Caerlyr), Aaron Wainwright (Dreigiau).

Cefnwyr: Ellis Bevan (Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Sam Costelow (Scarlets), Mason Grady (Caerdydd), Ben Thomas (Caerdydd), Nick Tompkins (Saracens), Owen Watkin (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Keelan Giles (Gweilch), Josh Hathaway (Caerloyw), Liam Williams (Kubota Spears), Jacob Beetham (Caerdydd), Cameron Winnett (Caerdydd).