鶹Լ

Cyngor yn 'peryglu pobl ddall' gyda newidiadau ffyrdd

Disgrifiad,

'Dyw'r safleoedd bws yma ddim yn ddiogel o gwbl'

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd o beryglu bywydau pobl ddall wrth gyflwyno safleoedd bysiau newydd yn y brifddinas.

Mae RNIB Cymru yn pryderu fod rhai safleoedd bysiau sy'n gorfodi cerddwyr i groesi lonydd beics er mwyn cael mynediad at fws, yn gallu bod yn beryglus i bobl ddall.

Dywedodd un fenyw sy'n byw yng Nghaerdydd ac sy'n rhannol ddall ei bod wedi cael profiadau "brawychus".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn gwrando ar bryderon a'u bod yn "aros am gymeradwyaeth ariannol i gychwyn gwaith ar y mannau bysiau dros dro".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maggie Rees (dde) yn dweud ei bod wedi cael profiadau brawychus yn sgil newidiadau i ffyrdd y brifddinas

Mae Maggie Rees o Gaerdydd yn byw gyda'r cyflwr Degenerative Retinitis Pigmentosa sy'n golygu ei bod hi'n rhannol ddall.

Er gwaetha'r cyflwr roedd Maggie'n ddigon hyderus yn teithio o gwmpas y ddinas ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond, dywedodd fod ei hyder ar chwâl oherwydd y newidiadau diweddar i'r safleoedd bysiau.

'Brawychus'

"Mae rhai o'r safleoedd yn golygu mae'n rhaid i fi groesi lôn beiciau er mwyn cael mynediad i'r bws", meddai.

"Mae man croesi penodol ar gael ond o'm mhrofiad i tydi o ddim wastad yn bosib i'r bysiau aros ger bron y groesfan.

"Yn aml mae'n rhaid i mi gerdded mewn i'r lôn beics sy'n brofiad hynod o frawychus gan fod beicwyr yn mynd yn gyflym iawn.

"Rwy'n defnyddio ffon wen ac wedi cael profiad o bron bwrw beicwyr gyda'r ffon gan fy mod i'n methu gweld nhw'n dod.

"Rwyf wedi colli cryn dipyn o hyder oherwydd y newidiadau."

Disgrifiad,

Liz Williams o RNIB Cymru'n rhannu ei phryderon wrth wylio teithwyr bws yn ceisio croesi lôn feics

Mae profiadau fel rhai Maggie Rees bellach wedi dod yn gyfarwydd i elusen RNIB Cymru.

Yn ôl Liz Williams, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus yr elusen: "Mae damwain ddifrifol yn bosibilrwydd oherwydd y safleoedd bysiau newydd.

"Yn anffodus mae'r ddinas bellach yn le peryglus i bobl sy'n ddall neu gyda golwg rhannol.

"Rydym wedi siarad gyda nifer fawr o bobl ddall a golwg rhannol ac maen nhw wedi dweud wrthym ni fod nhw'n teimlo bod bywydau nhw mewn perygl."

Mae RNIB Cymru yn mynnu bod y profiad o ymgynghori â'r cyngor ar y mater wedi bod yn rhwystredig.

"Rydym wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Chyngor Caerdydd ac maen nhw wedi ymgynghori â ni ac elusennau eraill ar y cynlluniau yma.

"Ond yn anffodus rwy'n teimlo bod Cyngor Caerdydd wedi anwybyddu ein hadborth.

"Nid ydym yn awyddus i greu ffrae gyhoeddus ond, yn anffodus, unwaith mae ein hadborth yn cael ei anwybyddu dro ar ôl tro does dim dewis gennym ond 'neud ein pryderon yn gyhoeddus."

'Gweithio’n agos gyda grwpiau anabledd'

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn ymwybodol o bryderon RNIB Cymru a'u bod yn gwrando.

“Mae’r cyngor yn aros am gymeradwyaeth ariannol i ddechrau gwaith ar wneud newidiadau i ddyluniad arosfannau bws dros dro hyn a fydd yn cael eu cyflawni pan fydd y cynlluniau’n cael eu gwneud yn barhaol.

"Mae nifer o newidiadau eisoes wedi eu gwneud i'r dyluniadau dros dro ac wedi eu cyflwyno ar y strydoedd eisoes fel ymateb uniongyrchol i'n hymgynghoriadau."

Dywedodd y llefarydd bod rhain yn cynnwys mwy o arwyddion yn rhybuddio beicwyr am gerddwyr.

“Mae gweithio’n agos gyda grwpiau anabledd trwy Fforwm Mynediad Caerdydd i wella dyluniad y llwybrau beicio a’r arosfannau bysiau yn bwysig i ni wrth geisio lleihau’r posibilrwydd o ddamweiniau rhwng ceir, bysiau, beicwyr a cherddwyr.”

Yn gynharach yn y mis fe ysgrifennodd RNIB Cymru, ar y cyd gydag elusen Cŵn Tywys Cymru, at brif weithredwr Cyngor Caerdydd yn mynnu "trafodaeth ffurfiol" am eu pryderon.

Mae disgwyl y bydd cynrychiolydd o'r cyngor yn cyfarfod â'r grŵp dros yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig