Cau ysbyty cymunedol 'er mwyn i fwy o gleifion gael gofal adref'

Disgrifiad o'r llun, Roedd nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r cynnig i gau Ysbyty Tregaron
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Bydd ysbyty cymunedol Tregaron yn cau ar 么l i benaethiaid y bwrdd iechyd bleidleisio'n unfrydol i gau'r naw gwely i gleifion mewnol.

Roedd nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r cais, gan ddweud y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar ysbytai cyffredinol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Ond dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddan nhw'n darparu mwy o wasanaethau i gleifion yn eu cartrefi eu hunain.

Roedd pobl, meddai adroddiad gan y bwrdd, wedi "dweud y byddai'n well ganddyn nhw fod adref, neu'n agosach at adref".

Dywedodd yr adroddiad fod staff ddim yn teimlo鈥檔 ddiogel yn yr ysbyty ar hyn o bryd oherwydd prinder staff a phryderon ynghylch diogelwch.

Yn y cyfamser, mae'r bwrdd hefyd wedi penderfynu cau Uned M芒n Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, yn ystod y nos, o fis Tachwedd am gyfnod o chwe mis.

'Ddim yma i fod yn boblogaidd'

Mewn cyfarfod ddydd Iau, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dr Neil Wooding: "Dydyn ni ddim yma i fod yn boblogaidd, ni yma i wneud y penderfyniadau gorau.

"Mae angen ni ystyried sut bydd ein penderfyniadau yn effeithio cymunedau."

Dywedodd Andrew Cruthers, Prif Swyddog Gweithredu鈥檙 bwrdd iechyd, ei bod hi鈥檔 anoddach i reoli鈥檙 gwelyau yn Nhregaron.

Bydd symud staff o鈥檙 ysbyty allan i鈥檙 gymuned, meddai, yn galluogi pedair gwaith yn fwy o bobl i dderbyn gofal adref.

Beth arall gafodd ei benderfynu yn y gorllewin ddydd Iau?

Ar hyn o bryd mae pedwar claf yn derbyn gofal yn Nhregaron.

Dywedodd y bwrdd fod 鈥渃ynlluniau cadarn鈥 mewn lle i ryddhau'r cleifion yn ddiogel a bod amseru i ryddhau'r cleifion yn ddibynnol ar yr unigolion.

Yn 么l Mr Wooding, cafodd y penderfyniad ei wneud "heb unrhyw ddiystyrwch o鈥檙 bobl a fydd yn poeni yn y gymuned, ond gyda golwg gadarnhaol gallwn ddarparu gwell gwerth cyhoeddus o ganlyniad i鈥檙 penderfyniad hwn".

Ychwanegodd ei bod hi鈥檔 "glir bod pobl Tregaron yn caru eu hysbyty".

'Gwario dim mwy na 拢5.3m y mis'

Clywodd y cyfarfod yn gynharach fod y bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg yn eu cyllideb o 拢64m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Er mwyn cadw'r diffyg i'r swm hwn dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Huw Thomas na all y diffyg bob mis fod yn fwy na 拢5.3m 鈥 ond adroddodd mai 拢5.4m oedd y diffyg diweddaraf yn y mis.

Dywedodd Mr Thomas fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran lleihau gwariant, yn enwedig ar nyrsys asiantaeth.

Ym mis Mai 2023 roedd Hywel Dda yn gwario 拢3m y mis ar nyrsys asiantaeth 鈥 ym mis Awst 2024 gwariodd 拢1m.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Elin Jones fod y penderfyniad yn "hynod siomedig"

Yn ymateb i'r penderfyniad dywedodd Aelod Senedd Cymru Ceredigion, y Llywydd Elin Jones ei bod yn 鈥渉ynod siomedig".

"O'n i wedi disgwyl y bydde鈥檙 gwelyau yna wedi para yn y gymuned nes bod Cylch Caron wedi cael ei adeiladu fel adnodd newydd - dyna oedd yr addewid i鈥檙 gymuned yn lleol.

"Felly mae鈥檔 ergyd fawr i鈥檔 hyder ni yn y gwasanaeth iechyd a gwasanaeth gofal yn yr ardal fod y gwelyau yma yn diflannu nawr.

"Ni鈥檔 gwybod bod angen gwelyau, ni鈥檔 gwybod bod cleifion yn Bronglais angen dod allan o'r ysbyty yna, a ma' ysbyty fel Tregaron wedi cynnig opsiwn.

"Ni gyd yn pryderu tamaid bach beth sydd o鈥檔 blaenau yn y gaeaf."

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd lansiad swyddogol o gynllun Cylch Caron yn Nhregaron yn 2016 pan gafodd y darn o dir ei brynu gydag arian Llywodraeth Cymru

Dywed y bwrdd iechyd fod cau'r ysbyty yn golygu bod modd cyfrannu at fodel gofal cymunedol yn yr ardal, Model Cylch Caron.

Bydd Cylch Caron yn cynnwys canolfan adnoddau integredig newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Nhregaron.

Bydd y ganolfan yn cynnwys meddygfa newydd, fferyllfa, clinigau cleifion allanol a fflatiau gofal ychwanegol.

Ond mae pobl leol yn honni na fydd yn medru cymryd lle'r ysbyty gan na fydd yno unrhyw welyau cleifion mewnol.

Mae prosiect Cylch Caron wedi cael ei drafod ers dros 10 mlynedd a thra bod safle ar gyfer y ganolfan wedi ei brynu, nid oes unrhyw waith adeiladu wedi dechrau eto.

Dywed adroddiad y bwrdd iechyd fod 鈥渙edi difrifol wedi bod oherwydd ffactorau lluosog, fodd bynnag mae cynnydd yn cael ei wneud nawr".

Mae tendrau wedi鈥檜 cyflwyno ac mae cytundeb ar gyfer datblygu鈥檙 ganolfan i鈥檞 ddyfarnu cyn diwedd 2024.

Cau uned m芒n anafiadau yn Llanelli

Yn yr un cyfarfod ddydd Iau, fe ddaeth penderfyniad unfrydol i gau Uned M芒n Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, yn ystod y nos, o fis Tachwedd am gyfnod o chwe mis.

Fe ddywedodd Andrew Cruthers, Prif Swyddog Gweithredu鈥檙 bwrdd iechyd, fod yna bryderon ynghylch diogelwch cleifion a staff.

Dywedodd Dr Ghosal, cyfarwyddwr Ysbyty Tywysog Phillip: 鈥淏ydd cau dros nos yn gwella gofal cleifion. Dyw e ddim am dynnu gwasanaethau i ffwrdd, mae'n ymwneud 芒'i wella.

"Bydd angen cydweithio gydag ysbytai Glangwili a Threforys er mwyn sicrhau na fydd pwysau ychwanegol ar yr ysbytai."

Clywodd y cyfarfod bydd gwasanaethau yn cael eu darparu drwy rif 111 ar gyfer m芒n anafiadau yn ystod y nos.

Ychwanegodd Dr Jon Morris, Arweinydd Clinigol yr uned: 鈥淒yma鈥檙 penderfyniad anoddaf dwi wedi gorfod gwneud yn fy ngyrfa.鈥