鶹Լ

Carcharu dyn am geisio treisio dwy fenyw a cherdded heb drowsus

Leo PayneFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Leo Payne dreulio o leiaf 11 mlynedd a thri mis yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Abertawe wnaeth geisio treisio dwy fenyw a cherdded heb drowsus drwy ran o’r ddinas wedi cael ei garcharu.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Leo Payne, 20, o'r ddinas wedi ymosod ar y ddwy fenyw yn oriau mân 23 Mehefin.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Payne ymosod ar ddyn gyda photel win, ar ôl cael ei weld heb drowsus ac yn cyflawni gweithred rywiol yn gyhoeddus.

Fe glywodd y llys iddo bledio’n yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i ddau gyhuddiad o geisio treisio, un o ymosodiad rhyw trwy dreiddio, un cyhuddiad o ddinoethi ac un o glwyfo anghyfreithlon.

Fe wnaeth y Barnwr Paul Thomas KC roi dedfryd estynedig o 16 mlynedd i Payne gyda 11 mlynedd a thri mis yn y carchar.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Leo Payne o'r ddinas wedi ymosod ar y ddwy fenyw yn oriau mân 23 Mehefin

Clywodd y llys gan yr erlyniad fod Payne wedi ymosod ar y fenyw gyntaf yn ardal Strand y ddinas, cyn cael ei herio i adael gan ddau weithiwr tacsi. Roedd ei drowsus i lawr.

Lai nag awr yn ddiweddarach, fe wnaeth Payne ymosod yn rhywiol ar ail fenyw ar Stryd y Berllan.

Fe gafodd ei weld yn ddiweddarach gyda'i drowsus i lawr ac yn perfformio gweithred rywiol ar Heol Walter.

Clywodd y llys ei fod wedyn wedi ymosod ar ddyn trwy ei daro sawl gwaith gyda photel win gan achosi anaf i'w ben.

'Penderfynol o ymosod yn rhywiol'

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC fod ymosodiadau Payne yn “ddychrynllyd”.

“Fe wnaethoch chi dargedu nifer o ferched, oedd ar eu pen eu hunain ac felly’n fregus, yng nghanol dinas Abertawe,” meddai.

“Roeddech chi'n benderfynol o ymosod yn rhywiol ar unrhyw fenyw oedd ar ei phen ei hun a groesodd eich llwybr y noson honno.”

Dywedodd y Barnwr Thomas pe na bai'r cyhoedd wedi ymyrryd yna byddai Payne wedi treisio’r ddwy fenyw.

“Dydych chi ddim yn gwybod pam y gwnaethoch chi ymddwyn yn y ffordd honno, does neb i weld yn gwybod, a does dim byd i’w ddweud nad oes risg sylweddol y gallai hyn ddigwydd eto.”

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dirprwy Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Iwan Jenkins, fod Leo Payne wedi "prowlan o amgylch canol y ddinas“

Cafodd ei garcharu a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.

Dywedodd Dirprwy Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Iwan Jenkins, fod Leo Payne wedi "prowlan o amgylch canol y ddinas“ gan gyflawni ymosodiadau rhyw dychrynllyd a throseddau treisgar”.

“Fe wnaeth y dioddefwyr ymladd yn ôl, a diolch i’w hymdrechion nhw, roedden ni’n gallu gweithio gyda Heddlu De Cymru i sicrhau erlyniad llwyddiannus a fydd yn golygu bod Payne yn treulio amser dan glo am ei droseddau.”

Pynciau cysylltiedig