Canlyniad 'hanesyddol' i Blaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Rhun ap Iorwerth yn dathlu llwyddiant Plaid Cymru mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu'r hyn mae wedi ei ddisgrifio fel noson "ragorol" a "hanesyddol" yn ei etholiad cyntaf wrth y llyw.

Llwyddodd y blaid i gadw dwy sedd a chipio'i dwy brif sedd darged yng Nghaerfyrddin ac Ynys M么n.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai nawr mae gwaith y blaid wir yn dechrau.

"Ma' hon di bod yn etholiad lle oeddan ni'n gwybod fod gennym ni neges glir a phositif ac mae'r canlyniad yn un hanesyddol.

Mewn digwyddiad i ddathlu llwyddiant y blaid dywedodd bod "rhywbeth addas yn does am fod fan hyn yn sgw芒r Caerfyrddin lle gafodd Gwynfor Evans ei ethol am y tro cyntaf yn 1966 a dyma ni unwaith eto yn dathlu un o fuddugoliaethau enwog Plaid Cymru".

Disgrifiad o'r llun, Cipiodd Ann Davies sedd Caerfyrddin

Gyda nifer y seddi yng Nghymru wedi gostwng o 40 i 32, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y canlyniad yr un gorau erioed i'w blaid mewn etholiad cyffredinol o ran cyfran yr Aelodau Seneddol.

Er disgwyl ras agos, llwyddodd Ann Davies i gipio Caerfyrddin gyda mwyafrif o 4,535 dros Martha O'Neil i'r Blaid Lafur.

Cipiodd arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi, Ynys M么n.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Ond wrth gwrs, nid ond yma yng Nghaerfyrddin ond yn Ynys M么n hefyd a chynyddu mwyafrif yng Ngheredigion a Dwyfor Meirionnydd a'r cynnydd yn y bleidlais gan ein hymgeiswyr gwych ar draws Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Llinos Medi yn dathlu gyda'i phlant - Twm ac Elliw - ar 么l cipio sedd Ynys M么n

Roedd hi'n agosach ar Ynys M么n lle gollodd yr Aelod Seneddol ei sedd - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ar yr ynys ers 1951.

Llwyddodd arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi, i drechu Virginia Crosbie ar ran y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 637.

Gadawodd Ms Crosbie y neuadd ar frys yn dilyn y datganiad gan wrthod gwneud sylw.

Disgrifiad o'r fideo, Llinos Medi yn ddagreuol wrth wneud araith ar 么l cipio sedd M么n

Ond mewn araith emosiynol yn dilyn y datganiad, gwnaeth yr aelod newydd addo siarad ar ran pobl M么n yn San Steffan.

"Nath rhywun ddeud wrthyf fi yn yr ymgyrch yma, 'Llinos, dwi mor falch fod chdi isho bod yn MP'.

"A wnes i ddeud: 'Dwi'm isho bod yn MP, dwisho cynrychioli Ynys M么n, lle dwi'n garu gymaint'."

Yn sedd newydd Ceredigion Preseli cynyddodd Ben Lake ei fwyafrif i 14,789 tra llwyddodd Liz Saville-Roberts i hefyd gynyddu'r bwlch yn Nwyfor Meirionnydd i 15,876.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae o'n deimlad da, ond nid mater o gyfri' etholaethau ydi hyn ond ceisio sicrhau'r gynrychiolaeth orau i Gymru, a dwi'n gwybod r诺an, drwy'r pedwar yma y bydd gan Gymru lais ac mi fydda nhw'n effeithiol wrth sicrhau fod y llais yn cael ei glywed."

Cynnydd i Reform a'r Democratiaid Rhyddfrydol

I blaid Reform, oedd yn sefyll mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf, daeth llwyddiant wrth gipio sawl sedd yn Lloegr gan gynnwys eu harweinydd, Nigel Farage, yn Clacton.

Ond gan hollti'r bleidlais asgell dde, llwyddodd y blaid i orffen yn ail mewn sawl sedd yng Nghymru, gan gynnwys Llanelli lle ddaeth y blaid o fewn 1,504 pleidlais i gipio'r sedd gan Lafur.

Disgrifiad o'r llun, David Chadwick ydy'r aelod newydd dros etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

Ond roedd hi hefyd yn noson dda i'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth gipio sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr.

Wedi trechu Fay Jones, oedd wedi cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed ers 2019, dywedodd David Chadwick ei fod "yn fore da iawn".

Fe ddisgrifiodd ei fuddugoliaeth fel "pleidlais i wrthod sleaze ac esgeulustod y blaid flaenorol".

"Bydd gan Gymru unwaith eto lais Rhyddfrydol yn ymladd ei chornel," meddai.