Â鶹ԼÅÄ

Merch, 13, wedi boddi ar wyliau yn Florida - cwest

Anna BeaumontFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anna Beaumont ei disgrifio gan ei theulu fel "enaid prydferth"

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod merch 13 oed o Gaerdydd wedi boddi tra ar wyliau yn yr Unol Daleithiau.

Roedd Anna Beaumont, oedd yn dod o ardal Sain Ffagan y ddinas, wedi ymweld â pharc dŵr Discovery Cove yn Orlando, Florida ar 28 Mai.

Clywodd y crwner fod ei thad wedi clywed chwiban aelod o staff y parc am 10:20, a'i fod wedi sylweddoli fod Anna mewn trafferthion.

Fe gafodd hi gymorth cyntaf gan aelodau staff cyn iddi gael ei chludo i Ysbyty Arnold Palmer yn y ddinas, ond bu farw am 17:22 ar 31 Mai.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn yr ysbyty, a daeth i'r casgliad ei bod wedi marw drwy "foddi a seizure disorder".

Dywedodd y crwner Patricia Morgan ei bod yn dechrau ymchwiliad ffurfiol gan fod ganddi "reswm i gredu nad oedd y farwolaeth yn un naturiol".

Eglurodd y byddai'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar "hanes meddygol Anna Beaumont a'r amgylchiadau arweiniodd at ei marwolaeth drist".

Byddai angen casglu mwy o wybodaeth o Florida fel rhan o'r ymchwiliad, meddai.

Cafodd y cwest ym Mhontypridd ei ohirio er mwyn gallu cynnal yr ymchwiliad.

Ychwanegodd Ms Morgan: "Hoffwn gydymdeimlo â theulu Anna Beaumont yn ystod y cyfnod trist yma."

Pynciau cysylltiedig