Galw am gyfarfod dros dro pedol Ysgol Heol Goffa

Disgrifiad o'r llun, Daeth tua 30 o ymgyrchwyr ynghyd ddydd Mercher i brotestio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae tro pedol dadleuol dros gynlluniau i adeiladu ysgol newydd i ddigyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol wedi ennyn galwadau am drafodaethau dros y penderfyniad.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin am gyfarfod dros eu cynlluniau ynghylch Ysgol Heol Goffa yn Llanelli, a鈥檜 heffaith ar blant a phobl ifanc.

Daw hyn wedi i Gyngor Sir G芒r ddatgan ym mis Mai nad oedd modd parhau 芒鈥檙 cynllun i adeiladu ysgol newydd oherwydd bod y costau adeiladu wedi cynyddu鈥檔 sylweddol o鈥檙 amcangyfrif gwreiddiol.

Bydd adolygiad annibynnol o鈥檙 ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn 么l y cyngor.

Disgrifiad o'r llun, "Ni moyn ysgol newydd i鈥檔 plant ni," medd Alex Dakin, sy'n rhiant i blentyn yn yr ysgol

Ar drothwy cyfarfod cyngor llawn ddydd Mercher, daeth tua 30 o ymgyrchwyr ynghyd i brotestio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i beidio adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa.

Yn 么l Owen Jenkins, Cadeirydd y Llywodraethwr yn Ysgol Heol Goffa: 鈥淣i wedi aros saith mlynedd a鈥檔 neges ni鈥檔 glir yw so ni鈥檔 moyn rhoi lan nawr.

"Ni鈥檔 gwybod bydd rhaid i ni gyfaddawdu ar y ddarpariaeth yn symud ymlaen ond un peth 'nawn ni ddim cyfaddawdu arno yw sicrhau hawliau a llais ein disgyblion ni.鈥

Dywedodd Alex Dakin, 44, sydd 芒 phlentyn 6 oed, Jac, yn yr ysgol: 鈥淣i 'ma heddi i drial newid meddwl y cyngor. Ni moyn ysgol newydd i鈥檔 plant ni.

"Ma' Caerdydd wedi cael ysgol newydd i鈥檞 plant ALN, Abertawe wedi cael un nhw, Sir Benfro wedi cael un nhw.

"Sai鈥檔 gwybod pam dyw Caerfyrddin ddim yn fodlon gwneud hynna.鈥

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Hannah Coles sy'n rhiant i blentyn mewn cadair olwyn: &辩耻辞迟;惭补别鈥檙 ysgol yn ffantastig ond dyw鈥檙 ysgol ddim yn accessible"

Ategodd Hannah Coles, 35, sydd hefyd yn rhiant i blentyn yn Ysgol Heol Goffa: 鈥淔i鈥檔 drist a鈥檔 grac at y council.

"Mae fy mab Seb yn mynd i Ysgol Heol Goffa, mae e鈥檔 8 oed ac wedi bod yn yr ysgol am bum mlynedd.

"Mae e'n defnyddio wheelchair a mae complex medical needs ganddo fe.

&辩耻辞迟;惭补别鈥檙 council wedi dweud wrthon ni y bydden ni鈥檔 cael ysgol newydd, wheelchair accessible.

&辩耻辞迟;惭补别鈥檙 ysgol yn ffantastig ond dyw鈥檙 ysgol ddim yn accessible.

"Mae rhaid i ffrindiau Seb helpu fe i fynd mas ar yr iard, dyw鈥檙 drysau ddim yn agor, does dim flooring.鈥

Disgrifiad o'r llun, Cafodd deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion ei chyflwyno, yn nodi bod angen cyfleusterau addysgol newydd ar y plant "yn druenus"

Yn ystod cyfarfod y cyngor sir, cafodd deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion ysgrifenedig a digidol ei chyflwyno, oedd yn galw ar y cyngor i wyrdroi ei benderfyniad.

Roedd y ddeiseb yn nodi bod yr ysgol y tu hwnt i鈥檞 chapasiti a bod angen cyfleusterau addysgol newydd ar y plant "yn druenus".

Derbyniodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies, y ddeiseb, gan ddweud eu bod wedi ymrwymo i adolygu darpariaeth ADY yn ardal Llanelli, a hynny drwy arbenigwr allanol ac annibynnol.

Bydd unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol, meddai.

Comisiynydd Plant yn galw am gyfarfod

Mae鈥檙 ysgol yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn 2017, fe wnaeth y cyngor llawn gymeradwyo darparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa a hynny鈥檔 dilyn ymgyrch hir am gyfleusterau gwell.

Fis Mai eleni, fodd bynnag, cyhoeddodd y cyngor nad oedd modd parhau 芒鈥檙 cynllun oherwydd pwysau ariannol.

Bellach, mae Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin "er mwyn sefydlu manylion llawn eu cynlluniau a鈥檜 heffaith ar blant a phobl ifanc".

鈥淢ae gan bob plentyn yr hawl i rannu barn ar y materion sy鈥檔 eu heffeithio nhw,鈥 meddai, 鈥渁 byddwn yn cyfarfod yn uniongyrchol 芒鈥檙 cyngor ysgol er mwyn i ni allu rhannu eu safbwyntiau a鈥檜 profiadau gyda rheiny sy鈥檔 gwneud penderfyniadau.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae鈥檙 ysgol yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith fod y ddeiseb yn "dangos cryfder y gwrthwynebiad i benderfyniad" y cyngor sir.

"Pam fod cynghorau eraill ledled Cymru wedi gallu gwneud hyn yn flaenoriaeth a pharhau i adeiladu ysgolion newydd tebyg i blant ag anghenion dysgu cymhleth, pan dyw Plaid [Cymru] yn Sir G芒r heb?"

'Blaenllaw ym meddyliau pawb'

Yn dilyn yr ymgyrchu, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi bod ymrwymiad wedi cael ei wneud i weithio ar y cyd gyda鈥檙 ysgol er mwyn datblygu cynllun i ddarparu'r cyfleusterau gorau un ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli.

鈥淕ydag anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa yn flaenllaw ym meddyliau pawb, bydd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth ADY bresennol yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn hydref 2024," meddai llefarydd.

鈥淏ydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried barn dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach.

"Bydd unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol.鈥

Ategodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price drwy ddweud: 鈥淗offwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gau'r ysgol bresennol.鈥