鶹Լ

Drama yn rhoi llais i fenywod mewn carchar

Golygfa o ddrama A VisitFfynhonnell y llun, Kirsten Mcternan
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o ddrama A Visit

  • Cyhoeddwyd

Mae drama newydd yn gofyn y cwestiwn: pwy sy'n gofalu am y plant pan fydd eu mam yn cael ei hanfon i'r carchar?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru, ysbrydolwyd yr awdur o Aberdâr, Siân Owen, i ysgrifennu drama A Visit am yr effaith mae hyn yn ei gael ar ferched o Gymru a’u teuluoedd.

Mae'n rhaid i deuluoedd deithio ar gyfartaledd rhwng tair a phedair awr tu allan i Gymru i weld eu perthnasau yn y carchar, gan fynd â phlant ifanc gyda nhw.

Bu Branwen Davies, sy'n ymddiriedolwr i gwmni theatr Papertrail, yn siarad ar raglen Ffion Dafis ar 鶹Լ Radio Cymru am y ddrama A Visit ac yn arbennig am yr effaith ar blant pan fod eu mam yn cael ei charcharu.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Branwen Davies

Meddai Branwen: “Beth sy’n digwydd i’r plant a’r pobl ifanc ‘ma – yn aml iawn maen nhw’n colli cartref, ysgol a ffrindiau o fewn wythnosau. Maen nhw’n colli bob dim sy’n gyfarwydd i nhw. Yn aml maen nhw’n mynd at aelodau o’r teulu neu mewn rhai achosion i’r system gofal.

“Mae lot o’r mamau [sy’n mynd i’r carchar] yn famau sengl felly does ‘na ddim partner na tad yno. Yn aml iawn maen nhw’n ferched sy’ wedi dioddef trais ac hefyd wedi bod mewn perthynas dreisgar felly mae o’n gymhleth.”

Mae tri chwarter y merched sy’n cael eu carcharu ym Mhrydain yn famau i blant dan 18 oed, gyda llawer o deuluoedd ifanc yn gorfod wynebu pellteroedd maith i deithio.

Yn ôl Branwen: “Does ‘na ddim carchar i ferched yng Nghymru felly os ydy merch yn gorfod mynd i garchar mae’n golygu fod y teulu yn gorfod teithio. Dyw hwnna ddim yn hawdd – mae’n gostus ac mae’n cymryd amser.

“Mae’r stori yma yn y ddrama A Visit yn ymweliad lle maen nhw wedi codi am bump y bore a dyw nhw ddim wedi gweld ei gilydd ers misoedd. Ac mae’n strach.

“Mae Bridget Keehan, cyfarwyddwr artistig y cwmni a Siân Owen y dramodydd wedi bod yn siarad efo merched sy’ mewn carchar – mamau a’u plant sy’ wedi cael eu effeithio gan y ffaith bod nhw mewn carchar a’n dweud y straeon dirdynnol hynny.

Rhannu straeon

“Mae pobl yn teimlo yn ofnus i ddechrau efo [i rannu eu stori bersonol] – dyw nhw ddim eisiau cael eu barnu.

"Ond unwaith maen nhw’n teimlo fod gynno nhw glust ac mae hwnna’n glust sy’n barod i wrando, maen nhw’n licio cael cynulleidfa i wrando jest i gael eu profiad nhw wedi ei glywed. I gael mynd mewn i’r celfyddydau wedyn a bod pobl yn rhoi gwrandawiad iddi nhw.”

Ffynhonnell y llun, Cameron Slater Photography
Disgrifiad o’r llun,

Siân Owen

Mae’r dramodydd Siân Owen wedi gosod y ddrama yn nhref enedigol ei theulu, Aberdâr, fel mae Branwen yn esbonio: “Mae’r teulu mae’r ddrama yn ymwneud â hi yn dod o Aberdâr yn wreiddiol – mam, merch sy’n 15 oed a chwaer y fam sy’n cymryd gofal o Angharad, y ferch 15 oed.

“Mae Siân yn ddramodydd ffantastig sy’n creu merched cryf, eofn, beiddgar. Mae’n ddrama galed ac anodd ond mae hiwmor a chariad yna. Mae perthynas y dair ferch a’r cwmwl deuluol ‘na mor bwerus a ddirdynnol.

“Mae’n bwysig iawn gweithio efo’r gymunedau sy’n cael eu heffeithio ac hefyd gweithio efo elusennau.

Ffynhonnell y llun, Kirsten Mcternan
Disgrifiad o’r llun,

Bethan McLean, Lizzie Caitlin Bennett a Siwan Morris

“Mae’r celfyddydau yn gallu neud byd o les i gymaint ohono ni, mae o’r ffisig gorau felly mae hynny’n bwysig.”

Mae A Visit yn cael ei berfformio yng nghanolfan celfyddydau YMa, Pontypridd rhwng 30 Medi a 5 Hydref.