鶹Լ

Cynllun i droi hen siop Debenhams Caerdydd yn barc

Parc CaerdyddFfynhonnell y llun, Virtual Planit
Disgrifiad o’r llun,

Llun yn dangos y safle arfaethedig yng nghanol dinas Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i droi hen siop Debenhams ynghanol Caerdydd yn barc wedi eu cyflwyno i gyngor y ddinas.

Mae safle'r siop yng nghanol y ddinas, a gaeodd yn 2021, eisoes yn y broses o gael ei ddymchwel.

Mae datblygwyr wedi llunio cynlluniau i newid y safle gyda sgwâr cyhoeddus gan gynnwys parc chwarae, llwyfan a theras uchel gyda lle i ddau fwyty sy'n edrych dros y parc.

Dywedodd cyfarwyddwr canolfan siopa Dewi Sant, Helen Morgan, fod y gwaith ailddatblygu arfaethedig "yng nghalon" prifddinas Cymru.

“Mae dod â pharc i’r fan yma yn wirioneddol bwysig oherwydd ei fod mor ganolog - gall pawb elwa ohono,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i waith dymchwel yr hen siop barhau tan wanwyn 2025

Mae'r datblygiad wedi bod ar y gweill ers y llynedd, pan brynodd y datblygwr Landsec yr hen siop.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus am y cynlluniau ei lansio yn gynharach eleni, a dywedodd Ms Morgan ei fod wedi cael ymateb "hynod o gadarnhaol".

"Fe wnaethon ni ymgysylltu â thros 5,000 o grwpiau cymunedol ac unigolion," meddai Ms Morgan.

“Maen nhw wir eisiau gweld gofodau y gall teuluoedd eu defnyddio, sy'n ddiogel.

"Siaradodd llawer o bobl am yr amgylchedd a chyflwyno mannau gwyrdd i'r ardal hefyd."

Ffynhonnell y llun, Virtual Planit
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr yn gobeithio agor y parc i'r cyhoedd erbyn haf 2026

Mae hen siop Debenhams, a gaeodd yn 2021, yn parhau i fod yn rhan o ganolfan siopa wreiddiol Dewi Sant ac yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 1970au.

Mae bellach yn rhan o ardal ehangach Dewi Sant, a agorodd yn 2009.

Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, bydd modd cyrraedd y parc yn uniongyrchol o ganolfan siopa Dewi Sant, neu ar lefel y stryd o'r tu allan.

Mae disgwyl i waith dymchwel yr hen siop barhau tan wanwyn 2025.

Mae Landsec yn gobeithio cael penderfyniad ar ei gais cynllunio erbyn yr hydref.

Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, dywedodd y datblygwyr eu bod yn gobeithio agor y parc i'r cyhoedd erbyn haf 2026.

Dywedodd Cyngor Caerdydd na allai wneud sylw ar y cynlluniau nes bod penderfyniad wedi'i wneud.

Pynciau cysylltiedig