Prif weithredwr Galeri yn gadael wedi achos stelcian

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Steffan Thomas ei benodi'n brif weithredwr Galeri yn 2023

Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi gadael ei swydd, bedwar mis wedi iddo gael ei atal o'i waith ar ôl pledio'n euog i stelcian.

Derbyniodd Steffan Thomas orchymyn atal (restraining order) ym mis Ebrill ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.

Ar ôl ei ddedfrydu cadarnhaodd bwrdd Galeri Caernarfon Cyf eu bod yn cynnal ymchwiliad, a bod Thomas wedi'i atal o'i waith ar gyflog llawn.

Mewn datganiad i Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw cadarnhaodd Galeri fod ei gyflogaeth wedi dod i ben ddydd Gwener.

Roedd wedi bod yn y swydd ers Ebrill 2023.

Dywedodd Galeri mewn datganiad: "Mae cyflogaeth Steffan Thomas fel Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf wedi dod i ben, ar y 9fed o Awst 2024.

"Bydd y broses o benodi Prif Weithredwr newydd Galeri Caernarfon Cyf yn cychwyn yn fuan."