Â鶹ԼÅÄ

Caernarfon: Arestio pump wedi digwyddiad yn ymwneud â dryll

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â dryll yng Nghaernarfon nos Sul.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i adroddiadau o anrhefn ar Lôn y Bryn yn y dref am 21:38.

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â dryll yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd tri dyn arall eu harestio ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol yn eu meddiant.

Dywedodd yr heddlu y bydd ganddynt bresenoldeb uwch yn yr ardal ddydd Llun wrth i’w hymchwiliad barhau.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig