Â鶹ԼÅÄ

Ymchwilio i dân yng Ngwesty Parc y Strade Llanelli

Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, s4c
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 22:30 nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos tân mewn gwesty yn Llanelli sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cartrefu ceiswyr lloches.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad yng Ngwesty Parc y Strade toc cyn 22:30 nos Sul, yn dilyn adroddiadau o dân ar risiau ar lawr gwaelod yr adeilad.

Erbyn i'r criw tân o Lanelli gyrraedd y safle, roedd y fflamau wedi cael eu diffodd gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd swyddogion tân yn bresennol ar y safle tan oriau man fore Llun, a does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Dros y misoedd diwethaf mae'r gwesty wedi bod yn ganolbwynt i ffrae yn lleol ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gartrefu ceiswyr lloches ar y safle.

Pynciau cysylltiedig