鶹Լ

Taith Oasis i ddechrau yng Nghaerdydd

OasisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y sioe yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf fydd y tro cyntaf i'r band chwarae yn fyw ers 2009

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Oasis yn dechrau eu taith yn 2025 gyda dwy sioe yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Fore Mawrth fe wnaeth y band gyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio ac yn bwriadu chwarae yn fyw am y tro cyntaf ers 2009.

Roedd cryn drafod wedi bod ar-lein wedi i'r brodyr - Noel a Liam Gallagher - awgrymu dros y penwythnos bod cyhoeddiad mawr ar y gweill.

Bydd y daith yn dechrau gyda dwy noson yng Nghaerdydd ar 4 a 5 Gorffennaf, cyn symud ymlaen i Fanceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn.

'Bore cyffrous iawn'

Mae’r cerddor Mei Emrys wedi bod yn ddilynwr brwd o'r band ers y 1990au, a bu'n ymateb i'r newyddion ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Mae hwn yn gyhoeddiad na fyddai llawer o bobl o genhedlaeth benodol fel fi, sydd wedi tyfu i fyny yn y 90au, erioed wedi meddwl y byddai’n digwydd," meddai.

"Ar y llaw arall, pan ti’n cymryd cam yn ôl ac yn meddwl am y peth, doedd Noel a Liam ddim yn cyd-dynnu’n dda iawn beth bynnag pan oedd y band ar ei anterth.

"Felly, yn y pen draw, os oedd cynnig gyda digon o arian, roedd yn anochel y byddai’r daith yn digwydd.

"Ond i fi, a miloedd os nad miliynau o gefnogwyr eraill yn y 90au, mae’n fore cyffrous iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Mei Gwynedd, sydd wedi bod yn aelod o fandiau fel Sibrydion a Big Leaves, wedi rhannu llwyfan gyda Oasis yn Stadiwm Principality yn 2009.

Roedd yn aelod o fand Y Peth gyda Rhys Ifans ar y pryd.

"Oedd o’n brofiad hollol anhygoel. Ddaru nhw chwarae yn y Motorpoint ychydig o flynyddoedd ynghynt – i feddwl yn ôl a gweld faint wnaethon nhw dyfu yn ystod yr adeg honno," meddai ar Dros Frecwast.

"Oedd o’n wych gweld nhw yno, ac wedyn cael chwarae efo nhw yn y stadiwm a mynd ar noson allan gyda nhw – oedd o’n noson grêt!"

"Nhw oedd band ein cenhedlaeth ni – mae rhai o’u caneuon nhw’n fytholwyrdd."

"O ran cefnogwyr a ffurfio bandiau – oedd 'na gymaint o fandiau yn cael eu ffurfio ar ddiwedd y 90au oedd eisiau bod a swnio fel Oasis," ychwanegodd Mei Emrys.

'Rhoi Caerdydd ar y map'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Fel llawer o fy nghenhedlaeth i, rwy’n hynod gyffrous bod Oasis yn ail-ffurfio, ac mae'r newyddion bod eu taith yn cychwyn yng Nghaerdydd yn geirios ar y cyfan.

"Yn dilyn sioeau diweddar gan Taylor Swift, Foo Fighters, Beyonce a llu o enwau mawr eraill, efallai y bydd rhai’n dweud fod Caerdydd yn prysur ddod yn gyrchfan ‘rhaid ei chwarae’ i sêr cerddoriaeth mwyaf y byd.

“Bydd yr awyrgylch drydanol yn Stadiwm Principality a’r cyffiniau eisoes yn gyfarwydd i filiynau, wrth i’r gigs enfawr hyn roi Caerdydd yn gadarn ar y map a denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd.

"Gyda ffigurau gan UK Music yn dangos bod twristiaid cerddoriaeth sy’n ymweld â Chymru wedi gwario £276 miliwn y llynedd, maen nhw hefyd yn rhoi hwb gwirioneddol i economi’r ddinas, gan danlinellu ein prif gynllun i wneud Caerdydd yn ddinas o safon fyd-eang ar gyfer cerddoriaeth.”

Disgrifiad,

Mae Oasis yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ddyddiadau yn Ewrop a thu hwnt hefyd.

Dywedodd y band mewn datganiad byr: "Mae'r gynau wedi tawelu. Mae pethau wedi disgyn i'w lle. Mae'r aros drosodd. Dewch i weld, ni fydd hyn yn cael ei ddarlledu."

Fe wnaeth Noel a Liam rannu'r un neges ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd: "Dyma ni, mae hyn yn digwydd."

Fe fydd tocynnau ar gyfer y sioeau yn y DU ac Iwerddon yn mynd ar werth am 09:00 fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig