Â鶹ԼÅÄ

Fan wedi'i dwyn dros nos a'i gadael yn Afon Taf

Fan yn Afon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld y fan yn Afon Taf o lwybr cerdded gerllaw

  • Cyhoeddwyd

Ni all siop yng Nghaerdydd gyflenwi archebion wedi i'w fan gael ei dwyn dros nos a'i gadael mewn afon gerllaw.

Wrth i staff Maidenhead Aquatics gyrraedd y siop yng nghanolfan arddio Pugh's yn Radyr fore Gwener, daeth i'r amlwg fod y safle wedi'i ddifrodi a'r cerbyd wedi diflannu.

Cafodd y fan ei darganfod yn ddiweddarach yn Afon Taf ger Pont Blackweir.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Arddio Pugh's
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y difrod yn amlwg pan gyrhaeddodd staff fore Gwener

Cafodd y fan ei darganfod ryw bum milltir o'r ganolfan arddio yn yr afon ym Mharc Biwt.

Dywedodd rheolwr cynorthwyol y siop ei fod yn "anghyffredin, dwyn fan ac yna'i gyrru mewn i afon".

"Pan gyrhaeddon ni'r bore 'ma, roedd y giât wedi'i rhwygo'n llwyr o'r postyn," meddai Alicia Hulbert.

Roedd rhannau o'r cerbyd ar lawr ger y siop, ond dim ond trwy luniau ar y cyfryngau cymdeithasol y gwnaeth y staff ddarganfod i ble'r aeth y fan.

Cafodd dau berson mewn balaclafas "a oedd yn edrych yn ifanc iawn" eu dal ar gamerâu cylch cyfyng.

Roedd staff a chwsmeriaid yn grac ac yn bryderus iawn, meddai, gyda'r "ffôn yn canu'n ddi-baid" drwy'r bore.

"Ry'n ni'n amlwg yn poeni'n fawr am fywyd gwyllt, ac am fan llawn disel ac olew'n cael ei gollwng mewn afon."

Ffynhonnell y llun, Canolfan Arddio Pugh's
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r siop dalu i drwsio'r difrod

Dywed Ms Hulbert fod y fan wrthi'n cael ei thynnu o'r afon ac y byddai'r heddlu'n gwneud gwaith fforensig arni, ond na fyddai modd ei defnyddio wedi hynny.

Rhaid i'r busnes drwsio'r adeilad yn ogystal â phrynu fan newydd, gan na fydd modd iddyn nhw gyflenwi archebion yn y cyfamser.

"Diolch byth nad ydyn ni'n cadw unrhyw beth yn y fan, felly mi oedd hi'n gwbl wag.

"Gallwn ni ddim deall y peth - mae mor anghyffredin, mae'n wallgo'."

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw yn oriau mân ddydd Gwener ar ôl i'r fan cael ei darganfod, meddai'r llu, ac mae ymchwiliad wedi cychwyn.

"Mae gwaith i dynnu'r fan o'r dŵr yn parhau," meddai.

Mae gan Maidenhead Aquatics 150 o siopau drwy'r DU, gan arbenigo mewn anifeiliaid, planhigion a nwyddau er mwyn cadw pysgod mewn pwll neu acwariwm.

Pynciau cysylltiedig