Â鶹ԼÅÄ

'Heb gael gwybod am gwest mam' fu farw wedi ymosodiad gan gi

Gail Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gail Jones yn dweud na chafodd hi wybod am y cwest gan swyddfa'r crwner

  • Cyhoeddwyd

Mae merch dynes 83 oed fu farw ar ôl i gi XL Bully cymysg ymosod arni, yn dweud nad oedd hi'n ymwybodol fod cwest ei mam wedi digwydd.

Cafodd Shirley Patrick, oedd â chyflwr dementia, ei brathu sawl tro gan y ci yn ei chartref yng Nghaerffili.

Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen a'i wyneb a bu farw 17 diwrnod yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2022.

Dywedodd ei merch, Gail Jones, fod y cwest wedi digwydd "y tu ôl i ddrysau caeëdig" a'i bod hi ond wedi dod i wybod am hynny ar ôl cysylltu â swyddfa'r crwner i holi am y diweddaraf am wrandawiad ei mam.

"Ches i ddim awgrym o gwbl ei fod o am ddigwydd, dwi'n meddwl fod hynny'n gwbl ofnadwy," meddai.

Dywedodd swyddfa crwner Gwent fod pob hysbysiad ysgrifenedig yr oedd gofyn iddyn nhw eu hanfon i'r teulu a'r wasg ynglŷn â'u bwriad i gynnal y cwest wedi eu hanfon.

Yn ôl Ms Jones, roedd ei nith wedi cael ei rhestru fel perthynas agosaf Ms Patrick mewn camgymeriad gan mai hi oedd wedi cysylltu â'r heddlu yn wreiddiol, ac fe gafodd manylion y cwest eu hanfon iddi hi.

Pan edrychodd nith Ms Jones ar ei hen gyfrif e-bost yr wythnos hon, fe ddaeth o hyd i neges gan swyddfa'r crwner.

Roedd mab Ms Patrick yn gofalu amdani ar 3 Rhagfyr, pan gafodd hi ei brathu sawl tro gan y ci.

Mae cofnod o'r cwest, sydd wedi ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, yn nodi fod y mab yn edrych ar ôl y ci, ei fod o wedi ceisio tynnu'r creadur oddi arni, ond doedd o methu, a dyna pryd wnaeth o alw am gymorth.

Er iddi gael llawdriniaeth a gofal ysbyty, cafodd ei briwiau eu heintio a bu fawr rai dyddiau yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru fod pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad, a'u bod wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gail Jones gyda'i mam yn yr ysbyty

Dywedodd Ms Jones ei bod hi eisiau i'r cwest fod yn un cyhoeddus gan ei bod hi'n teimlo bod sawl cwestiwn am farwolaeth ei mam sydd heb eu hateb.

"I fod yn onest, ges i fy syfrdanu. Doeddwn i 'rioed yn disgwyl i hyn ddigwydd i ni, ro'n i'n disgwyl i ni gael bod yno fel teulu, i allu gofyn cwestiynau," meddai.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n gwbl ofnadwy i fod yn onest, fod rhywun yn gallu marw yn y modd yma.

"Dwi'n gwybod fod nifer o fy ffrindiau wedi bod i gwest ar ôl i'w gwŷr farw ac ati... ond iddyn nhw benderfynu gwneud hyn tu ôl i ddrysau caeëdig, ac i beidio cael gwybod am hynny, dwi'm yn meddwl fod hynny'n iawn."

'Dim hanes o ymddygiad bygythiol'

Mae cofnod y cwest, sydd wedi ei lofnodi gan grwner Gwent Caroline Saunders, yn nodi nad oedd hi "wedi derbyn unrhyw wybodaeth fyddai'n awgrymu y dylid cynnal gwrandawiad".

Daeth y cwest i'r casgliad fod Shirley Patrick wedi marw o ganlyniad i "ymosodiad yn ei chartref gan gi XL Bully".

Nodwyd mai achos marwolaeth Ms Patrick oedd "sepsis, niwmonia a briwiau oedd wedi eu heintio" yn ogystal â "briwiau trawmatig".

Daeth y crwner i'r casgliad hefyd nad oedd unrhyw dystiolaeth bod gan y ci hanes o ymddygiad bygythiol cyn y digwyddiad hwn.

Mae Gail Jones yn dweud y byddai hi wedi hoffi herio rhywfaint o'r dystiolaeth, gan ei bod hi'n honni i'r ci gael sawl perchennog mewn mater o fisoedd.

"Fyddwn i, mwy na thebyg, wedi troi rownd a gofyn sut gallen nhw gredu nad oedd y ci yma wedi achosi problemau o'r blaen os ydi o wedi cael pedwar perchennog mewn cyfnod mor fyr."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ci ymosod ar Shirley Patrick yn ei chartref yng Nghaerffili

Er gwaethaf marwolaeth ei mam, mae Ms Jones wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn magu cŵn peryglus.

Fe wnaeth hi anfon llythyr at Rishi Sunak, ac mae hi bellach yn bwriadu ceisio trefnu cyfarfod gyda'r prif weinidog newydd.

"Dwi'n bwriadu cysylltu â Keir Starmer yr wythnos hon a gofyn iddo fo hefyd, achos dydw i ddim yn meddwl bod gwahardd un math o gi yn ddigon," meddai.

"Dim y cŵn eu hunain yw'r broblem, ond y bobl sy'n eu magu. Maen nhw'n llofruddwyr yn fy marn i, nhw yw'r rhai sy'n creu'r creaduriaid peryglus yma."

Byddai sicrhau newid yn y gyfraith yn golygu nad yw marwolaeth ei mam yn mynd "yn ofer".

Dywedodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei bod hi'n anghyfreithlon dan y ddeddf cŵn peryglus i fagu cŵn XL Bully, a gallai'r rhai sy'n torri'r gyfraith honno gael eu carcharu am hyd at 14 mlynedd a gweld eu cŵn yn cael eu difa.

Pynciau cysylltiedig