Gŵyl 'unigryw' sy'n rhoi llwyfan i berfformwyr anabl

Ffynhonnell y llun, Hijinx

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gŵyl Undod ei chynnal am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl
  • Awdur, Lorna Prichard
  • Swydd, Gohebydd Diwylliant 鶹Լ Cymru

Mae artistiaid wedi canmol gŵyl "unigryw" sy'n rhoi llwyfan i berfformwyr anabl, ond maen nhw'n dweud bod angen mwy o gyfleoedd yn gyffredinol.

Gŵyl Undod yw un o'r gwyliau celfyddydol mwyaf o'i bath yn Ewrop.

Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl.

Mae’n digwydd dros naw dydd ac mae wedi bod ar daith o Fangor i Lanelli cyn gorffen yng Nghaerdydd y penwythnos yma.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, "Bu gwelliannau o ran cyfleoedd sydd ar gael ond mae mwy i'w wneud," meddai Richard Newnham

Un o'r rhai fu'n perfformio mewn noson gomedi yng Nghanolfan y Mileniwm yw'r comedïwr a'r actor Richard Newnham.

"Rwy’n meddwl bod gan rai argraffiadau eithafol o hyd o ran pobl ag anableddau," meddai.

"Mae pobl teimlo piti neu'n meddwl ein bod ni'n superhuman - ond mae'r rhan fwyaf ohonom rywle yn y canol."

Mae hefyd yn cymryd rhan mewn darn o theatr stryd o'r enw 'Truth' dros y penwythnos ac yn dweud bod yr ŵyl yn gyfle “ffantastig” i berfformwyr gydag anabledd a phobl niwroamrywiol ddangos yr hyn maen nhw'n gallu ei wneud.

"Mae cymaint o artistiaid anabl - mae pethau wedi gwella o ran cyfleoedd sydd ar gael ond mae mwy i'w wneud," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Oliver Crawford

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Undod a chwmni theatr Hijinx, Ben Pettitt-Wade eu bod wedi sefydlu'r ŵyl oherwydd ei fod yn "anhygoel o anodd" ar y pryd i artistiaid anabl gael gwaith proffesiynol.

Cytunodd fod pethau wedi gwella ers hynny ond "mae wastad lle i sicrhau bod mwy o gyfleoedd".

"Mae'r elfen ryngwladol hefyd yn hynod o bwysig. Mae ein gŵyl yn agor ei drysau i artistiaid o bob rhan o'r byd ac yn hyrwyddo Cymru fel cenedl groesawgar."

Mae Dança sem Fronteira, cwmni dawns o Sao Paolo ym Mrasil, hefyd yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Fernanda Amaral eu bod wedi cael ymateb da ym Mangor a Llanelli a bod aelodau'r gynulleidfa wedi dod yn ôl i weld y sioe eto.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

"Mae’n ddarn dawns am sut mae natur yn canfod ei ffordd - gallwch ddod o hyd i farddoniaeth yn unrhyw le.

"Rydyn ni'n defnyddio baglau o fewn symudiadau felly mae'ch anabledd yn dod yn bŵer gwych oherwydd bod y grand jeté - y naid uchel mewn bale - yn cael ei berfformio gyda baglau a'r dawnsiwr yn hongian yn yr awyr.

"Fyddai hynny ddim yn bosib heb faglau. Mae’n dangos anableddau mewn ffordd gadarnhaol."

Dywedodd hefyd bod Gŵyl Undod yn "bwysig iawn" a bod angen mwy ddigwyddiadau o'r fath.

"Mae’r ŵyl hon yn dod â pherfformwyr ag anableddau a heb anableddau at ei gilydd ac aelodau'r gynulleidfa. Ac mae gennym ni i gyd rywbeth pwysig i'w rannu."

Roedd gŵyl eleni yn cynnwys 85 o ddigwyddiadau dros naw diwrnod, efo theatrau cwmni o dros y byd yn cymryd rhan.