Â鶹ԼÅÄ

Reiffl a chi marw wedi'u canfod mewn tŷ lle bu farw pâr priod 'ffyddlon'

Trowbridge
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion yn parhau yn yr ardal brynhawn Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau pâr priod "ffyddlon" wedi dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd dyn 74 oed a dynes, 72, eu canfod yn farw mewn tÅ· ym Morfa Crescent yn ardal Trowbridge, Caerdydd am tua 14:50 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad fod y ddau berson wedi marw "yn sydyn" a'u bod wedi canfod gwn reiffl yn y tÅ·.

Cafodd ci ei ganfod yn farw yno hefyd.

Dywedodd cymydog, a oedd yn adnabod y cwpl yn dda: “Mae pawb mewn sioc, roedden nhw'n gwpl hyfryd, wedi ymroi'n llwyr i'w gilydd.

“Yr hyn sydd wedi cynhyrfu pobl gymaint ag unrhyw beth arall yw bod eu cocker spaniel wedi’i ladd hefyd."

'Sioc a thristwch i'r gymuned'

Y gred yw fod gan y cwpl, a oedd wedi bod yn briod am fwy na 50 mlynedd, ddau o blant hÅ·n yn byw yn lleol.

Dywedodd cymydog arall, nad oedd eisiau cael ei enwi: “Roedden nhw’n gwpl neis, tawel a oedd bob amser yn chwifio llaw wrth yrru heibio i mi yn eu fan."

Dywedodd yr heddlu nhw nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r llu wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau.

"Rydyn ni'n deall fod y digwyddiad yma wedi achosi sioc a thristwch i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees.

“Mae ymholiadau helaeth yn cael eu cynnal i sefydlu’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad.

“Rydym yn aros am ganlyniadau archwiliadau post-mortem, fydd yn cadarnhau achos y farwolaeth."

Pynciau cysylltiedig