Â鶹ԼÅÄ

Ofcom yn ymchwilio i drafferthion pleidleisio Cân i Gymru

Cân i GymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Sara Davies enillodd y gystadleuaeth ar 1 Mawrth gyda'r gân Ti

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheoleiddiwr darlledu Ofcom wedi lansio ymchwiliad ffurfiol i'r trafferthion pleidleisio yn ystod Cân i Gymru eleni.

Sara Davies enillodd y gystadleuaeth ar 1 Mawrth gyda'r gân Ti.

Ond roedd cwynion gan nifer eu bod wedi methu â bwrw pleidlais, ac fe wnaeth S4C ymddiheuro a chynnig ad-dalu'r rheiny a gafodd drafferthion.

Roedd sawl un oedd wedi ceisio pleidleisio wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar ôl derbyn biliau ffôn uwch na'r arfer.

Dywedodd S4C fod Ofcom "wedi gwneud cais am wybodaeth am Cân i Gymru", a bod y sianel yn cyd-weithio gyda'r rheoleiddiwr.

Roedd Ofcom wedi cadarnhau eisoes eu bod wedi cael cwynion am y rhaglen, ond maen nhw bellach wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ffurfiol.

“Rydym yn ymchwilio i weld a wnaeth hyn dorri ein rheolau ar gystadlaethau darlledu a phleidleisio," meddai llefarydd.

Dywedodd Ofcom eu bod wedi cael 10 cwyn gan wylwyr am drafferthion yn bwrw pleidleisiau, a bod S4C wedi dweud fod hynny oherwydd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Ychwanegodd y rheoleiddiwr fod ymchwiliadau o'r fath fel arfer yn cymryd misoedd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Dywedodd nifer o bobl nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.

Fe welodd Cymru Fyw dystiolaeth o £120 o gostau i un person a geisiodd bleidleisio sawl tro, ond a oedd yn credu nad oedd y galwadau'n cysylltu.

Yn sgil y cwynion hynny fe wnaeth S4C gynnig ad-daliad i'r rheiny a gafodd drafferthion.

Mewn datganiad ar wefan Cân i Gymru ganol Mawrth dywedodd S4C: "Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod Cân i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.

"Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson."

Ychwanegodd y datganiad fod y "canlyniadau wedi cael eu gwirio ac yn ddilys".