Aur i Aled Sion Davies ym mhencampwriaethau’r byd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Sion Davies hefyd wedi ennill tair medal aur Paralympaidd yn ystod ei yrfa

Mae'r Cymro Aled Sion Davies wedi ennill aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd am y pumed tro yn olynol.

Fe wnaeth Davies, oedd yn cynrychioli Prydain, arwain y gystadleuaeth taflu pwysau F63 o'r dechrau i'r diwedd ym Mharis.

Daeth ei dafliad gorau o 16.16m yn y rownd ail olaf, wrth iddo ennill y gystadleuaeth o bron i ddau fetr.

Sajad Mohammadian o Iran (14.38) ddaeth yn ail, ac Edenilson Roberto o Frasil (14.06) yn drydydd.