鶹Լ

'Gobaith i unrhyw un' sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol

Leanne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Jones yn dweud bod "ffordd allan a dydi pobl ddim yn gorfod gwneud o ar eu pen eu hunain”

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp o 60 o bobl sydd wedi rhoi’r gorau i gyffuriau ac alcohol wedi dod at ei gilydd i ddringo un o fynyddoedd Eryri i ddangos bod ‘na obaith i’r rheini sy’n parhau’n gaeth.

Teithiodd pobl o sawl rhan o Gymru a Lloegr i Feddgelert er mwyn dringo Moel Hebog.

Gwasanaeth cymorth lleol, Sober Snowdonia drefnodd y daith er mwyn dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl.

Roedd y daith hefyd yn gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau newydd a rhannu eu profiadau gyda’i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dydi Llion Wyn Huws heb gymryd unrhyw gyffuriau nag alcohol ers dros 6 mis

Un o’r rheini deithiodd o Loegr i ogledd Cymru ar gyfer y digwyddiad oedd Llion Wyn Huws.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, dechreuodd Llion gamddefnyddio alcohol a chyffuriau pan oedd yn blentyn.

“Nes i ddechrau cymryd alcohol a thabledi pan o’n i’n 10 oed, ac yn weddol sydyn symudodd o ymlaen i anffetamin ac ecstasi.

"Erbyn o’n i’n 16 oed o’n i’n chwistrellu heroin. Yn dilyn hynny o’n i jyst mewn ac allan o’r carchar."

Dywedodd Llion: “Y tro diwethaf es i i’r carchar nes i daro rock bottom, ac o’n i’n gwybod o’n i naill ai yn mynd i farw neu o’n i’n mynd i ladd rhywun arall.

"Es i i rehab... a nath hynny newid popeth i fi.

"Dwi 'di ffeindio Iesu Grist hefyd ac mae fy mywyd i’n gwbl wahanol.

“Mae cael digwyddiad fel heddiw yn grêt.

"Mae’n gyfle i gyfarfod pobl sydd wedi bod, a dal i fynd trwy rywbeth tebyg i fi. Dwi’n gallu bod yn fi fy hun a rhannu’n onest sut dwi’n teimlo.”

'Nath fy mywyd ddisgyn yn ddarnau'

Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan wyth sefydliad gwahanol.

Mae pob un ohonyn nhw’n darparu cymorth i’r rheini sy’n ceisio rhoi’r gorau i’w dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.

Rob Haverlock o Borthmadog oedd yn arwain y grŵp i gopa Moel Hebog.

“O’n i’n gaeth i gyffuriau a chwrw am dros 20 mlynedd.

"Trwy fod yn gaeth i gyffuriau nes i golli pob dim yn diwedd.

"Yn araf bach mi wnaeth fy mywyd i ddisgyn yn ddarnau."

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Rob Sober Snowdonia helpu pobl eraill oedd yn ceisio rhoi'r gorau i'w dibyniaeth

Mae Rob yn egluro ei fod wedi cael "llond bol" yn y diwedd "a gwneud y penderfyniad i wella fy hun".

“Erbyn hyn, dwi ‘di bod yn rhydd o gyffuriau ac alcohol ers dros 17 mis.”

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ddechreuodd gwasanaeth cymorth newydd o’r enw Sober Snowdonia.

“Syniad Sober Snowdonia ydy dod â phobl efo’r salwch yma i’r mynyddoedd ac i fi gael rhannu faint o gymorth mae ‘di bod i fi efo pobl eraill.

"Yr unig le o’n i’n fodlon cerdded iddo fo o’r blaen oedd y tŷ tafarn neu i brynu cyffuriau a rŵan dwi wrthi’n cerdded y mynyddoedd anhygoel yma.”

Disgrifiad o’r llun,

Daeth 60 o bobl at ei gilydd i ddringo Moel Hebog, ger Beddgelert

Mae Rob yn rhedeg y grŵp ar y cyd gyda’i bartner Leanne Jones o’r Felinheli.

Mae Leanne hefyd wedi rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau ac alcohol ers bron i flwyddyn a hanner.

“Mae gallu bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn yn grêt.

"'Da ni’n dod o gefndiroedd gwahanol ond mae gyda ni’r un problemau, a ‘da ni’n gallu deall ein gilydd a siarad, a bod yna efo’n gilydd a jyst mwynhau’r diwrnod ym mhrydferthwch Eryri.

"Does dim llawer sy’n well.”

Disgrifiad o’r llun,

Pwrpas y daith oedd dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl

Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn parhau i fod ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 30 marwolaeth ym mhob 100,000 o’r boblogaeth yn 2022. Yn Lloegr y gyfradd yw 25.9.

Yn 2022 bu farw 834 o bobl ar draws Cymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau neu alcohol.

Mae’r gyfradd o farwolaethau wedi gostwng ymhlith dynion Cymru, ond mae’n uwch nag erioed ymhlith menywod.

Ond, mae Leanne yn teimlo’n gryf bod angen rhannu’r neges bod yna obaith i bawb sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.

“Mae ‘na llawer o stigma o gwmpas alcohol a chyffuriau ond mae ‘na gymaint ohonom ni mae jyst angen i ni fod yna gyda’n gilydd a helpu ein gilydd.

"Mae ‘na obaith i unrhyw un sydd am roi'r gorau i'r pethau yma, ac mae angen i bobl wybod hynna.

"Mae ‘na ffordd allan a dydi pobl ddim yn gorfod gwneud o ar eu pen eu hunain.”