Â鶹ԼÅÄ

Medal gerddoriaeth y Gelli i Huw Stephens

Huw StephensFfynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/Gŵyl y Gelli
  • Cyhoeddwyd

Mae'r DJ a chyflwynydd Radio Cymru, Huw Stephens, wedi derbyn un o Fedalau Gŵyl y Gelli eleni, a hynny am ei gyfraniad i gerddoriaeth.

Yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y teledu a gorsafoedd radio'r Â鶹ԼÅÄ, mae hefyd yn gyd-sylfaenydd gŵyl gerddoriaeth Sŵn yng Nghaerdydd a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

"Mae'n hyfryd derbyn y fedal eleni," meddai Huw wrth Cymru Fyw. "Y tro cyntaf iddyn nhw roi medal am gerddoriaeth yng Ngŵyl y Gelli, o be' fi'n deall.

"Ac yn digwydd ar 25ain mlynedd o ddarlledu, felly mae hynny'n neis hefyd. Dwi'n teimlo'n falch iawn."

Ffynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/Gŵyl y Gelli

Mae llond llaw o fedalau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr ŵyl lenyddol yn y Gelli Gandryll bob blwyddyn ers 2012; enillodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood fedal farddoniaeth yn yr ŵyl y llynedd.

Ynghyd â nodi 25 mlynedd o ddarlledu eleni, mae Huw newydd lansio llyfr Wales: A Hundred Records - felly mae 2024 yn parhau'n flwyddyn fawr iddo. Llongyfarchiadau!

Ffynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/Gŵyl y Gelli
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn derbyn y fedal am ei gyfraniad i'r diwylliant cerddoriaeth