Stori y rhedwr o Gwmaman, Ron Jones

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr

Disgrifiad o'r llun, Ron gyda'i arwr, yr athletwr Ken Jones, wedi i Ron ennill ei wythfed teitl yn rhedeg 100m gan guro record Ken yn 1970

鈥淎naml y byddwn i鈥檔 cerdded os o鈥檔 i鈥檔 gallu rhedeg, ac yn aml o鈥檔 i鈥檔 gwibio mor gyflym 芒 phosib. Ro鈥檔 i鈥檔 mwynhau teimlo鈥檙 p诺er yn fy nghoesau yn curo鈥檙 ddaear wrth iddo basio鈥檔 gyflym o dan fy nhraed.鈥

Dyma ddisgrifiad y rhedwr o Gwmaman, Ron Jones, o鈥檌 blentyndod.

Ond nid rhedwr cyffredin oedd Ron - aeth ymlaen i osod 28 record sbrintio Cymreig, ennill 12 teitl Cymreig, cystadlu mewn pedair o Gemau'r Gymanwlad a dwy G锚m Olympaidd. Roedd yn gapten t卯m athletau Prydain yng Ngemau Olympaidd Mecsico yn 1968.

Yn ystod y cyfnod clo penderfynodd Ron ysgrifennu ei hunangofiant gan lwyddo i orffen stori ei fywyd, Running Through my Life, ddyddiau cyn iddo farw yn 87 mlwydd oed yn Rhagfyr 2021.

Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda鈥檌 weddw, Linda Chamberlain-Jones, am fywyd un o fawrion athletau Cymru a鈥檙 un oedd yn dal record sbrint 100m Cymru am bron i 22 o flynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr

Disgrifiad o'r llun, Ron gyda th卯m ras gyfnewid 4x110 llathen Prydain a gurodd America a chipio record y byd yn 1963. Chwith i dde: Ron Jones, Peter Radford, David Jones a Berwyn Jones

Mae Linda鈥檔 disgrifio鈥檙 broses o fynd n么l dros fywyd ei g诺r fel 鈥榣lafur cariad鈥.

鈥淒ylai ei stori gael ei hadrodd fel ei bod ar gael i bawb,鈥 meddai.

鈥淢ae Running Through My Life nid yn unig yn s么n am hanes Ron yn y byd chwaraeon ond hefyd yr heriau a wynebodd a bu鈥檔 rhaid iddo oresgyn er mwyn cystadlu ar lwyfan y byd.

鈥淐yflawnodd gymaint ar y lefel uchaf gydag ychydig iawn o help. Arferai hyfforddi a chystadlu o gwmpas swydd llawn amser, ac am nifer o flynyddoedd, nid oedd ganddo drac rhedeg i hyfforddi arno.

鈥淢ae hyn yn dyst i gryfder ei gymeriad, ei benderfyniad, a鈥檙 oriau di-ri o waith caled.鈥

Ganed Ron yn 1934 yng Nghwmaman ger Aberd芒r. Yn 么l Linda: 鈥淩oedd yn fywyd caled yn tyfu i fyny mewn teulu glofaol heb unrhyw arian i'w sbario.

鈥溾橬ath hynny roi鈥檙 t芒n yn ei fola i fod eisiau llwyddo. Doedd e ddim yn sylweddoli bod rhedeg yn dalent pan oedd e鈥檔 fachgen. Roedd yn hoff iawn o'r teimlad o redeg 鈥 doedd e ddim yn cerdded os allai redeg.鈥

Aeth Ron i ysgol ramadeg Aberd芒r ar 么l pasio ei 11+ a chafodd wersi Addysg Gorfforol yno am y tro cyntaf a sylweddoli鈥檔 fuan mai fe oedd y cyflymaf yn yr ysgol.

Dyna pryd y dechreuodd ei stori fel rhedwr.

Gwreiddiau

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr

Disgrifiad o'r llun, Croeso mawr yng Nghwmaman wrth i Ron ddychwelyd o'r Gemau Olympaidd lle oedd wedi bod yn cystadlu fel capten t卯m athletau Prydain

Mae Linda鈥檔 dweud fod ei wreiddiau yn ddylanwad arno drwy ei fywyd, yn arbennig pan oedd yn gweithio gydag elusennau i gefnogi plant o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan mewn chwaraeon: 鈥淩oedd yn siarad am ei athletau a beth oedd e wedi ei gyflawni er mwyn cael pobl i ddeall bod angen iddynt gefnogi plant o gefndiroedd fel hyn.

鈥淩oedd yn aml yn dweud fod ei dad, oedd yn l枚wr o Gwmaman, yn dweud wrtho, 鈥楧on鈥檛 be a bighead son.鈥 Rhywbeth oedd yn nodweddiadol o鈥檙 Cymoedd a wnaeth aros gyda fe.鈥

Mae stori bywyd Ron yn cynnig cipolwg unigryw ar hanes athletau ym Mhrydain, yn arbennig y ffaith fod athletwyr ar y pryd yn gweithio mewn swyddi eraill ac yn hyfforddi yn eu amser hamdden.

Ar 么l ei ddyddiau ysgol bu Ron yn rhedeg ac yn cystadlu tra鈥檔 gweithio yn yr RAF.

Meddai Linda: 鈥淒aeth Ron allan o鈥檙 RAF yn benderfynol fod e鈥檔 mynd i gystadlu dros Gymru.

鈥淎c mi wnaeth e gyflawni hynny yn 1958 pan redodd yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad. Roedd e鈥檔 hyfforddi ar gaeau p锚l-droed a chaeau anwastad achos doedd ganddo ddim clwb athletau na thrac rhedeg.鈥

Ond yn y cyfnod yma cafodd gyngor gan Bernard Baldwin, yr athletwr wnaeth gychwyn y ras Nos Galan yn Aberpennar, i ymuno 芒 chlwb rhedeg.

Ac felly ymunodd gyda鈥檙 Roath Harriers yng Nghaerdydd oedd yn ymarfer ym Maindy.

Dywedodd Linda: 鈥淩oedd Ron dim ond yn gallu fforddio鈥檙 tocyn o Aberd芒r i Gaerdydd unwaith yr wythnos, ac felly dim ond un noson yr wythnos oedd e鈥檔 hyfforddi ar drac rhedeg.鈥

O ganlyniad i hyn wnaeth Ron fynd i Ilford i weithio er mwyn byw鈥檔 agosach at drac rhedeg.

Meddai Linda: 鈥淒oedd dim hyfforddwr rhedeg ganddo, ddim hyd yn oed ar gyfer Gemau鈥檙 Gymanwlad.

鈥淐afodd lawer o anafiadau a hyd yn oed pan oedd yn rhedeg dros Brydain ac yn gwneud yn dda doedd e ddim yn cael help gydag anafiadau.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr

Disgrifiad o'r llun, Ron Jones yn ei cit cystadlu dros Brydain

Trobwynt

Ond daeth trobwynt annisgwyl yn ei yrfa pan wnaeth gyfarfod cyfrifydd o'r enw Lindley Armitage oedd wedi astudio'r dechneg o redeg.

Meddai Linda: 鈥淕wyliodd e Ron yn rhedeg a dweud wrtho nad oedd e'n rhedeg yn iawn. Wnaeth e roi cyngor iddo a newid ambell i beth 鈥 ac yn sydyn roedd Ron yn hedfan ar y trac.

鈥淒aeth y cyfrifydd yma yn hyfforddwr iddo. Trodd y dyn yma yrfa Ron o gwmpas yn llwyr.鈥

Colled

Mae un o rannau mwyaf trist y llyfr yn s么n am gyfeillgarwch Ron gyda'r athletwraig Lillian Board pan oedd y ddau yn rhedwyr ifanc.

Yn 么l Linda: 鈥淩oedd ganddo sawl cyfeillgarwch cryf iawn pan oedd yn rhedeg gyda phobl. Yr un oedd anoddaf iddo ysgrifennu amdani oedd Lillian Board.

鈥淩oedden nhw鈥檔 agos iawn ac yn cystadlu yn yr un Gemau Olympaidd yn 1968. Bu farw Lillian o ganser y coluddyn yn 22 oed. Roedd Ron yn ei gweld hi鈥檔 anodd ysgrifennu am hynny.

鈥淗yd yn oed yn 22 oed roedd hi鈥檔 enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwraig Ewropeaidd 鈥 felly roedd ganddi yrfa ryfeddol o鈥檌 blaen.

鈥淩oedd y byd wrth ei thraed.鈥

Gyrfa

Ar 么l i鈥檞 yrfa mewn athletau ddod i ben, daeth Ron yn ffigwr pwysig ym myd rheoli chwaraeon, gan gynnwys gweithio fel Prif Weithredwr Queens Park Rangers yn yr 1970au a Rheolwr-Gyfarwyddwr Clwb P锚l-droed Dinas Caerdydd yn yr 1980au. Bu鈥檔 gyfarwyddwr SportsAid Cymru Wales am 25 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Linda Jones

Disgrifiad o'r llun, Linda a Ron gyda'r athletwr o Gymru, Jeremiah Azu

Ond mae Linda鈥檔 dweud taw ei lwyddiannau ar y trac rhedeg oedd bwysica鈥 i Ron.

Meddai: 鈥淵 llwyddiant oedd e鈥檔 siarad amdano mwyaf achos bod pobl yn disgwyl hynny oedd y ras gyfnewid 4x110 llath wnaeth osod record byd newydd. Curodd t卯m Prydain yr Americanwyr, oedd yn cael eu hystyried yn amhosib i鈥檞 curo ar y pryd.

鈥淩oedd yn anhygoel bod nhw wedi llwyddo i wneud hynny ac roedd gosod record byd yn wych.

鈥淥nd y gwir yw roedd Ron yn ystyried mai un o鈥檌 lwyddiannau mwyaf oedd curo'r JJ Williams ifanc yn y pencampwriaethau Cymreig, pan oedd Ron yn 34 oed a JJ Williams yn fyfyriwr ifanc.

鈥淩oedd e鈥檔 falch iawn o hynny.鈥

Ffynhonnell y llun, Ron Jones

Disgrifiad o'r llun, Ron yn ennill yn erbyn JJ Williams ym Mhencampwriaeth Athletau Cymru 1968

Gobaith Ron gyda鈥檌 waith elusennol oedd i ysbrydoli plant o gefndiroedd tebyg iddo i gyflawni ac, yn 么l Linda, dyna yw鈥檙 gobaith gyda鈥檙 llyfr sy鈥檔 adrodd stori ei fywyd: 鈥淧an dwi鈥檔 mynd n么l i Gymru mae pobl o hyd eisiau siarad am Ron 鈥 maen nhw鈥檔 hoffi cofio amdano a phopeth wnaeth e gyflawni ym maes athletau.

鈥淕obeithio fydd ei stori yn ysbrydoli mwy o bobl.鈥