鶹Լ

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau, ar yr economi, costau byw ac iechyd ymhlith eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Morâl ar ei isaf erioed' yn y sector twristiaethwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Dywed y Ceidwadwr Tom Giffard fod "morâl yn is nag erioed" yn y sector twristiaeth, "oherwydd cyfres o bolisïau gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Maen nhw'n poeni am effaith enfawr treth dwristiaeth ar eu busnesau a'u cymunedau, maent yn poeni am newidiadau i eiddo gwyliau hunanarlwyo, a fydd yn lleihau faint o lety gwyliau fydd yn eu hardaloedd, ac maent yn poeni bod ganddynt Lywodraeth Cymru sy’n gwneud ychydig iawn i’w cefnogi, ac y maent yn teimlo sy'n eu rhwystro yn lle hynny."

    Dywed y prif weinidog “y broblem wirioneddol a wynebodd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru dros yr haf hwn, yn y tywydd gwych, oedd nad oedd yn gallu recriwtio’r staff yr oedd eu hangen arno er mwyn gallu agor i’r graddau y dymunai, ac i wneud yr arian y gallai fod wedi'i wneud", yn rhannol o ganlyniad i Brexit y mae'n honni.

    Mae’n dweud y byddai ardoll twristiaeth yn “codi arian i fuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth, ac i wneud yn siŵr y bydd yr amodau sy’n gwneud Cymru’n lle deniadol i ymweld ag ef heddiw yn parhau i fod yn lleoedd deniadol i’r dyfodol”.

    Dychwelodd twristiaid i Landudno eto eleniFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dychwelodd twristiaid i Landudno eto eleni

  3. Y cyflenwad o eiddo preifat i'w rhentuwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Dywed y Ceidwadwr Natasha Asghar y byddai rhewi rhenti yn effeithio ar y cyflenwad o eiddo preifat i'w rhentu. Mae hi’n dweud bod 38 y cant o landlordiaid preifat wedi dweud wrth yr NRLA [Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl] eu bod yn bwriadu cwtogi ar nifer yr eiddo y maent yn eu rhentu.

    Ychwanegodd fod "yr NRLA yn pryderu y byddai datblygiad posibl rheolaethau rhent yng Nghymru mewn ymateb i'r argyfwng costau byw yn ei gwneud yn anoddach i denantiaid gael mynediad i'r cartrefi y mae dirfawr eu hangen".

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod y "farchnad mewn perygl o ddymchwel, oherwydd ni all pobl fforddio benthyca arian mwyach".

    Mae'n egluro y rheswm pam ei fod yn meddwl bod "pobl o dan y pwysau y maent ynddo yn y sector hwnnw. Ym mis Rhagfyr 2021, fe allech chi fenthyg arian ar 2.34 y cant. Ar y diwrnod y cyhoeddodd y Canghellor diweddaraf ei gyllideb fach fel y'i gelwir, roedd cyfradd y morgais wedi codi i 4.74 y cant Heddiw, mae’n 6.43 y cant, o ganlyniad i’r cyhoeddiadau di-hid a wnaed gan y Canghellor."

    Tai
  4. Galw am godiadau cyflog sydd o leiaf yn cadw i fyny â chwyddiantwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw am godiadau cyflog sydd o leiaf yn cadw i fyny â chwyddiant yn y sector cyhoeddus.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae'n bolisi y mae'r llywodraeth hon yn dymuno'n fawr i ni fod mewn sefyllfa i'w weithredu", ond mae'n gofyn o ble y gallai'r arian ddod.

    Mae'n dweud bod cyllideb ei lywodraeth y flwyddyn nesaf "eisoes wedi'i thorri gan biliwn o bunnoedd".

    Mae'r prif weinidog yn dweud wrth Adam Price os yw am weld cyflogau gwell yn y sector cyhoeddus mae angen mwy na "dyheadau a chyhuddiadau duwiol nad yw pobl eraill mor sanctaidd ag y mae e rywsut".

    Ymatebodd Adam Price: "Nid yw gwleidyddiaeth ofnadwy yn San Steffan yn esgus dros wleidyddiaeth dlawd yng Nghymru."

    Adam Price
  5. Ymchwiliad Covidwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn atgoffa’r prif weinidog fod cyhuddiadau o ansensitifrwydd wedi’u cyfeirio ato am ddweud bod ymgyrchwyr ar gyfer ymchwiliad Covid i Gymru yn unig wedi symud ymlaen.

    Mae Mr Drakeford's yn cyfeirio at ddatganiad i'r wasg gan yr ymgyrch Covid Bereaved Families for Justice Cymru.

    Dywedodd y datganiad hwnnw nad oedd Mr Drakeford wedi’i argyhoeddi gan yr angen am ymchwiliad i Gymru’n unig ac mae’r grŵp “felly wedi symud eu ffocws i sicrhau bod Cymru’n cael ei harchwilio’n llawn yn Ymchwiliad Covid-19 y DU”.

    Mae gan Covid Bereaved Families for Justice Cymru tua 500 o aelodau a chyfarfu â Mr Drakeford nifer o weithiau yn ystod y pandemig, gan alw dro ar ôl tro am ymchwiliad Cymreig penodol.

    Yna mae Mr Davies yn codi profiad mam-gu etholwr yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan Caerdydd, ac adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran honno.

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Mae'n bwysig pwysleisio, onid yw, bod yr adroddiad wedi canfod bod mwyafrif y cleifion yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn derbyn gofal brys da".

    Ond ychwanega, “mae’n gwbl annerbyniol i mi ddarllen adroddiad sy’n dweud bod adran achosion brys yn fudr, nad oes gan adran achosion brys ddigon o gadeiriau i bobl eistedd arnynt, nad yw adran achosion brys yn gallu darparu mynediad i ddŵr i'r rhai sy'n aros."

    Ysbyty Athrofaol Cymru yw ysbyty mwyaf Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysbyty Athrofaol Cymru yw ysbyty mwyaf Cymru

    Andrew RT Davies
  6. Budd-daliadauwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd bywydau pobl ar fudd-daliadau "hyd yn oed yn llai goddefadwy" os na fydd budd-daliadau'n cael eu codi yn unol â chwyddiant.

    Mae’n beirniadu “gweithredoedd llywodraeth a fydd wedi dewis ei blaenoriaethau - fel y gwyddom, gan godi’r cap ar fonysau bancwyr wrth fod yn barod i dorri buddion y rhai lleiaf cefnog”.

    Mae amharodrwydd y Prif Weinidog Liz Truss i godi budd-daliadau i gyd-fynd â chostau byw cynyddol yn achosi rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol. Mae gweinidog y Cabinet, Penny Mordaunt, yn dweud ei fod yn “gwneud synnwyr” eu cynyddu yn unol â chwyddiant.

    Mark Drakeford
  7. Dim gwahoddiad i siarad â Liz Trusswedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Pan ofynnwyd iddo pa drafodaethau y mae wedi’u cael gyda phrif weinidog y DU ynglŷn â’r argyfwng costau byw sy’n wynebu trigolion, mae Mr Drakeford yn ateb nad yw wedi cael gwahoddiad i siarad â Liz Truss.

    Mark Drakeford and Liz TrussFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Polisïau economaidd Llywodraeth y DUwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies, Llafur, sy'n gofyn am "effaith bosib polisïau economaidd Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent".

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb "bydd polisi Llywodraeth y DU o doriadau treth heb eu hariannu ar gyfer y cyfoethog yn cael ei dalu gan bobl ym Mlaenau Gwent. Bydd gofyn iddynt dalu'r dyledion y bydd y llywodraeth ddi-hid hon yn eu pentyrru. Bydd toriadau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn cael eu gwneud fel canlyniad bwriadol i'r trychineb economaidd hwn."

    Mae’n cyfeirio at amcangyfrif gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) y bore yma o doriad o 15 y cant mewn cyllidebau adrannol.

    Mae’n dweud y byddai “toriad o 15 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhywbeth nas clywyd amdano yn nyddiau dyfnaf y cyni, ac rwyf am ddweud mor ddifrifol ag y gallaf heddiw, os ydym yn wynebu toriadau ar y raddfa honno, rydym yn sôn am filoedd ar filoedd o bobl yn colli eu swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru".

  9. Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr Enethwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai "merch 16 oed o’r Bari yw Prif Weinidog Cymru am y diwrnod wrth i ferched ar draws y byd gymryd yr awenau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr Eneth. Mae Jaime wedi camu i esgidiau’r Prif Weinidog Mark Drakeford i ddathlu pŵer merched ac i alw am weithredu i chwalu’r rhwystrau sy’n parhau i’w hwynebu yn yr oes sydd ohoni."

    Ond gwylio, yn hytrach nag ateb, y Cwestiynau i’r Prif Weinidog, fydd Jaime yn y Senedd, cyn iddi gymryd rhan mewn digwyddiad i ddathlu cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd cyn y twrnamaint fis nesaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 11 Hydref 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o chweched sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.