Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 36-5 Cymru

Ffynhonnell y llun, Brendan Moran / Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Molly Reardon a Abbie Fleming yn ceisio atal prop Iwerddon, Christy Haney

Mae Cymru wedi colli am y trydydd tro o'r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi i Iwerddon eu trechu'n hawdd.

36-5 oedd y sgôr terfynol ym Mharc Virgin Media, Cork - canlyniad sy'n golygu bod Cymru'n parhau ar waelod y tabl.

Roedd y tîm cartref 21-0 ar y blaen erbyn diwedd yr hanner cyntaf wedi i Aoife Wafe, Eve Higgins a Neve Jones groesi'r llinell.

Fe diriodd Katie Corrigan wedyn ar ddechrau'r ail hanner cyn i Beibhinn Parsons sgorio pumed cais Iwerddon.

Roedd yna ambell eiliad addawol i'r Cymru - fe wnaethon nhw ddarfod y gêm yn gryfach ac roedd yna elfennau cadarnhaol o ran yr amddiffyn a'r sgrym.

Ac fe sgoriodd Gwennan Hopkins unig gais Cymru yn ei gêm ryngwladol gyntaf ar ôl dod ymlaen fel eilydd.

Ond chwarae am friwsion fydd Cymru yn y ddwy gêm sy'n weddill - y ddau yng Nghaerdydd - yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.