Chwe Gwlad: Bevan yn dychwelyd i herio Iwerddon

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Keira Bevan yn sgorio yn erbyn Lloegr
  • Awdur, Cennydd Davies
  • Swydd, Prif sylwebydd rygbi Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Keira Bevan yn dychwelyd i'r 15 cychwynnol wrth i Ioan Cunningham wneud pedwar newid i dîm Cymru fydd yn wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bu'n rhaid i'r mewnwr profiadol fodloni ar le ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr, cyn dod ymlaen a thirio yn yr ail hanner ym Mryste.

Mae Jasmine Joyce wedi'i chynnwys ar ôl tynnu nôl yn hwyr o'r gêm yn erbyn y Saeson, ynghyd ag Alisha Butchers a Sisilia Tuipulotu, ac fe allai fod yn ddiwrnod arbennig i'r wythwr Gwenan Hopkins fydd yn ennill ei chap cyntaf o'r fainc.

Ond fe allai buddugoliaeth a phwynt bonws yn Cork godi tîm Ioan Cunningham i'r trydydd safle - yn dibynnu ar ganlyniadau eraill.

Tîm Cymru

Jenny Hesketh; Jasmine Joyce, Hannah Jones (capt), Kerin Lake, Carys Cox; Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Prys, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Lewis.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.

Disgrifiad o'r fideo, Yn ôl prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham gallai gêm y menywod elwa drwy ddefnyddio pêl lai

Yn y cyfamser mae World Rugby yn ystyried cyflwyno pêl maint 4.5 i gêm y menywod, sydd tua 3% yn llai a 3-4% yn ysgafnach na phêl draddodiadol maint 5.

Y gobaith yn ôl yr awdurdodau yw y byddai pêl yn llai o faint yn arwain at lai o gamgymeriadau, yn haws i'r cicwyr ac yn cyflymu'r gêm yn gyffredinol.

Dyw gwahaniaethu rhwng offer dynion a menywod ym myd y campau ddim yn beth newydd - ym mhêl fasged, er enghraifft, mae'r bêl yn llai o faint yn yng nghystadleuaeth y WNBA yn America nag yn yr NBA (cystadleuaeth y dynion).

Er fod y syniad yn ei ddyddiau cynnar ac yn hollti barn, mae prif hyfforddwr tîm menywod Cymru, Ioan Cunningham, ac Undeb Rygbi Cymru yn agored i'r posibilrwydd ac yn croesawu'r ymgais i geisio arbrofi er mwyn hybu poblogrwydd y gêm.

Bydd modd gwrando ar y gêm ar Radio Cymru am 17:00 ddydd Sadwrn.