Betsi Cadwaladr: Tri digwyddiad difrifol ym mis Chwefror

Disgrifiad o'r llun, Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl

Fe wnaeth bwrdd iechyd y gogledd gymysgu dau glaf, gan osod coil mewn mam newydd wedi iddi gael llawdriniaeth Ceseraidd (Caesarean section).

Roedd claf arall o ogledd Cymru bron â chael y bys troed anghywir wedi ei dynnu yn ystod llawdriniaeth.

Cafodd trydydd digwyddiad ei nodi lle cafodd moddion solid eu chwalu, eu hychwanegu at ddŵr a'u rhoi i glaf mewn chwistrell, am nad oedd y claf yn medru llyncu'r moddion.

Fe ddigwyddodd y "digwyddiadau byth" yma - achosion a ddylai fyth ddigwydd - yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fis Chwefror.

37 digwyddiad yng Nghymru

Er nad yw'r manylion ynghylch y cleifion na'r ysbytai wedi eu rhyddhau, bydd y digwyddiadau yma yn cael eu trafod mewn cyfarfod y bwrdd iechyd ddydd Iau.

Mae'r GIG yn disgrifio digwyddiad byth fel un "difrifol, yn ymwneud a diogelwch claf lle mae modd ei atal" na ddylai fod wedi digwydd pe bai'r rheolau cywir wedi'u dilyn.

Mae'r ffigyrau llawn diweddaraf yn nodi y bu 37 digwyddiad o'r fath mewn ysbytai yng Nghymru rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd yn gyfrifol am 12 o'r digwyddiadau hynny, gyda 10 wedi digwydd o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain.

Mewn adroddiad i'r tri digwyddiad fis Chwefror, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nodi sut cafodd coil ei osod - teclyn sy'n atal beichiogrwydd - i berson oedd newydd gael llawdriniaeth Ceseraidd.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel "triniaeth anghywir" o fewn yr adroddiad. Cafodd y camgymeriad ei wneud yn dilyn newid o fewn "trefn y rhestr yn dilyn cynnydd yn y categori ar gyfer y claf hwn".

Roedd digwyddiad arall a oedd yn cael ei nodi fel "llawdriniaeth safle anghywir", yn nodi claf oedd i fod i dynnu ei ail a'i drydydd bys ar ei droed.

Er hyn, roedd y meddygon wedi dechrau'r driniaeth ar fys arall. Cafodd y camgymeriad ei nodi yn sydyn ac fe gafodd y bysedd cywir eu tynnu.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y digwyddiadau'n cael eu trafod mewn cyfarfod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Iau

Yn y trydydd digwyddiad dan sylw, cafodd meddyginiaeth ei roi i glaf drwy chwistrell ar ôl i'r moddion gael ei chwalu a'u cymysgu gyda dŵr, am nad oedd y claf yn medru llyncu'r moddion.

Fe wnaeth dirprwy brif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru, Chris Jones, ddweud bod y digwyddiadau yn dangos "gwendidau posibl" o ran sut mae sefydliadau yn rheoli prosesau diogelwch sylfaenol.

Dywedodd ei bod hi'n bwysig bod y digwyddiadau wedi eu nodi ac yn cael eu harchwilio'n llawn.

Bydd y tri digwyddiad dan sylw yn cael eu trafod mewn cyfarfod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Llandudno ddydd Iau.