Gwylnos yn Aberporth i ddathlu bywyd LlÅ·r Davies

Disgrifiad o'r llun, Y gymuned yn chwifio golau gyda'u ffonau symudol ar draeth Aberporth
  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae gwylnos i ddathlu bywyd bachgen 16 oed wedi cael ei chynnal ar draeth Aberporth.

Nos Wener, daeth tua 200 o bobl ynghyd ar draeth Dyffryn, i chwifio golau er cof am LlÅ·r Davies, fu farw mewn digwyddiad ger Efailwen, Sir Benfro ar y 12 Mawrth.

Roedd e'n chwarae rygbi i glwb lleol ac fe gafodd ei ddisgrifio gan ei hyfforddwr cyn yr wylnos fel "cymeriad o foi".

Bu farw Llŷr Davies, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul mewn digwyddiad yn ymwneud â thryc ar dir preifat yn Sir Benfro.

Disgrifiad o'r llun, Roedd LlÅ·r Davies yn mwynhau rygbi ac yn joio gweithio, medd un o hyfforddwyr y clwb

Cafodd yr heddlu eu galw i chwarel Gilfach ger Efailwen am 13:23 ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth.

Er gwaethaf "ymdrechion gorau" y gwasanaethau brys, fe gadarnhaodd yr Ambiwlans Awyr am 14:39 fod bachgen wedi marw.

Cafodd y bachgen ei enwi yn ddiweddarach fel Tomos LlÅ·r Davies.

'Cymeriad o foi'

Yn bresennol yn yr wylnos, dywedodd Emyr Jones, hyfforddwr tîm dan-16 Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, lle'r oedd Llŷr yn aelod ei fod yn "gymeriad o foi.

"Ro'dd e'n mwynhau rygbi a'n joio gweithio. Roedd e wedi bwrw calon pawb."

Dywedodd fod yr wylnos yn "siawns i ni ddathlu, cael y gymuned i gyd at ei gilydd, i ddathlu LlÅ·r. Roedd e'n drychinebus beth ddigwyddodd a nawr mae e'n siawns i ni ddathlu ei fywyd e."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Emyr Jones fod y"niferoedd sydd wedi troi mas yn dangos faint o effaith mae LlÅ·r wedi ei gael"

"Mae'r niferoedd sydd wedi troi mas yn dangos faint o effaith mae e wedi ei gael. Dim jyst ar yr ardal yn Aberporth ond yr ardal eang."

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad llawn i'r digwyddiad, gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd yn eu cynorthwyo gyda'u hymchwiliad.

'Crwt gyda chalon a gwên'

Dywedodd Lisa Pritchard Evans, un o drefnwyr y digwyddiad ei bod hi ac eraill wedi mynd ati i drefnu'r wylnos "achos roedd teimladau mor gryf, pawb moyn gwneud rhywbeth ond ddim cweit yn siŵr beth i'w wneud, na pa ffordd i fynd ag e".

"Ton o oleuni - y syniad yw, dwi 'di creu tonnau ar y tywod i bobl gael dilyn fel llinell a wedyn ma' pawb yn mynd i ddal eu ffonau lan i wneud y golau a flare yn mynd off a just cofio LlÅ·r rili."

Aeth ymlaen i ddweud: "Bydd colled mawr. Mae twll mawr a bydd y twll 'na am byth.

"O'dd e jyst yn grwt gyda chalon a gwên... Bydde fe'n troi lan ar y traeth a bydde pawb yn gwenu jyst achos bod e wedi troi lan. O'dd e yn goleuo pawb lan. Tonnau a golau dros Llŷr."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Lisa Pritchard Evans fod Llyr yn "grwt gyda chalon a gwên"

Roedd rhai o gyd-ddisgyblion LlÅ·r yn yr wylnos.

Dywedodd Rhys: "Roedd e'n cael ei adnabod fel "Aberporth man" a o'dd pawb yn cymryd y mick mas o fe, taw fe odd bia'r traeth.

"Fe o'dd yn rhedeg y lle a 'neud popeth mas o'r traeth hyn so, jyst dathlu bywyd e, dathlu fel ardal, fel cymuned. A'r tîm rygbi, ma pawb yn gryfach yn dod trwy pethe fel tîm yn lle bod ben dy hunan gartref."

Aeth ymlaen i'w ddisgrifio fel "cymeriad cryf iawn a hapus i siarad ei farn - strab".

Ychwanegodd Bobi: "O'dd e wastad mas ar y traeth yn siarad â phobl a'n ysgol 'fyd. Digon serchog.

"Fan hyn o'dd e'n hala amser a ma' jyst bod 'ma i ddathlu bywyd e. Mae'n neis i fod 'ma."

Disgrifiad o'r llun, Rhys a Bobi oedd yn yr ysgol gyda LlÅ·r

Gofynnwyd i'r cyhoedd barchu dymuniad y teulu drwy beidio a dod a balŵns na llusernau (lanterns) i'r traeth.

Yn hytrach, gofynnwyd iddynt chwifio golau gyda'u ffonau symudol.

Roedd staff elusen ieuenctid o Aberteifi, Area 43, ar y traeth i gefnogi pobl ifanc neu deuluoedd oedd yn dymuno cymorth neu sgwrs.

Roedd cyfle hefyd i arwyddo llyfr cydymdeimlad a roddwyd gan gwmni Tonnau.

Bu munud o gymeradwyaeth a bloeddio am 19:00.