Cymru 21-24 Yr Eidal: Cymru'n gorffen ar waelod y tabl

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Rhys Ffrancon
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Cymru wedi derbyn y llwy bren ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2024 wedi i'r tîm golli i'r Eidal yng Nghaerdydd.

Mewn perfformiad hynod siomedig yn Stadiwm y Principality roedd Cymru'n eilradd i'r Eidalwyr ym mhob agwedd o'r chwarae.

Rhoddodd dau gais i Gymru yn nhri munud olaf y gêm barchusrwydd i'r sgôr nad oedd y tîm cartref yn ei haeddu.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru orffen ar waelod y tabl ers 2003, pan oedd Steve Hansen wrth y llyw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, George North yn canu'r anthem

Wedi 121 o gapiau rhyngwladol ac ar ei ymddangosiad olaf dros ei wlad roedd George North i'w weld dan deimlad yn ystod yr anthemau, gyda deigryn i'w weld yn dod lawr ei foch.

Gyda'r ddau dîm efallai'n teimlo'r nerfusrwydd yn y munudau agoriadol roedd amryw o gamgymeriadau gan y ddwy ochr. Ond Yr Eidal fanteisiodd gan arwain 0-6 wedi 13 munud o chwarae yn dilyn dwy gic gosb gan y maswr, Paolo Garbisi.

Yna, wedi 20 munud o chwarae fe groesodd Yr Eidal yn haeddiannol dros y gwyngalch am gais cynta'r gêm - yr asgellwr Monte Ioane'n sgorio yn dilyn gwaith da gan blaenwyr yr Azzurri.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Monte Ioane'n croesi am y cais agoriadol

Yr Eidal oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, yn ddisgybledig wrth amddiffyn ac yn bwrpasol wrth ymosod.

Ar y llaw arall roedd tîm Cymru yn hynod wastraffus ac yn ddiddychymyg gyda'r bêl mewn llaw, gyda llawer o gamgymeriadau elfennol yn eu chwarae.

Gorffenodd yr hanner gyda'r Eidal yn arwain 0-11.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Eleni oedd ymgyrch Chwe Gwlad gyntaf y cefnwr Cameron Winnett

Yn fuan wedi'r egwyl aeth Rio Dyer ar rediad da lawr yr asgell gyda Tomos Williams yn derbyn y bas tu fewn iddo. Ond daeth yr ymosodiad i ddim yn y diwedd gyda'r Eidal yn ennill cic gosb o'r ryc.

Munud yn ddiweddarach fe ymosododd yr Eidal gan ledaenu i'r cefnwr Lorenzo Pani ar yr asgell. Torrodd Pani tu fewn i Josh Adams yn hawdd gan groesi am ail gais gwych i'r Eidal.

Wedi 50 munud roedd Yr Eidal yn llwyr reoli 0-18, a'r tîm cartref yn edrych yn anobeithiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Lorenzo Pani'n dathlu wedi iddo sgorio ail gais Yr Eidal

Wedi 62 munud o chwarae fe gyfunodd Rio Dyer a Tomos Williams unwaith eto gyda'r mewnwr yn cael ei daclo pedair medr o'r llinell gais. Fe enillodd Yr Eidal y bêl yn ôl a'i chlirio dros yr ystlys.

O'r llinell daeth cyfnod o bwysau gan y Cymry gyda Elliott Dee'n croesi. Wedi i'r dyfarnwr drafod gyda'r TMO rhoddwyd y cais i Dee, gyda'r tîm dyfarnu'n penderfynu nad oedd ail-symudiad wrth iddo osod y bêl.

Daeth ymateb gan Yr Eidal gyda Garbisi'n llwyddo gyda chic gosb arall i'w gwneud hi'n 7-21 yn mynd mewn i'r 10 munud olaf.

Tri munud yn ddiweddarach roedd yr eilydd o fewnwr, Martin Page-Relo, yn llwyddiannus gyda chic gosb o bellter i ledaenu'r gagendor rhwng y ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, George North yn gadael y cae gydag anaf yn ei ymddangosiad olaf dros Gymru

Sgoriodd Will Rowlands efo munud o'r gêm yn weddill, ac yna gyda symudiad ola'r gêm fe frasgamodd Mason Grady i sgorio, ac Ioan Lloyd yn ychwanegu'r trosiad.

Bydd gêm nesaf Cymru yn Twickenham yn erbyn De Affrica ar 22 Mehefin, cyn taith i Awstralia ym mis Gorffennaf. Mae'n deg dweud bod digon o waith i Warren Gatland a'i dîm hyfforddi ei wneud cyn wynebu pencampwyr y byd ymhen tri mis.