Gruff Rhys yn tynnu'n ôl o ŵyl yn sgil anghydfod Gaza

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Gruff Rhys ymhlith dros 80 o artistiaid na fydd yn perfformio yn SXSW

Mae Gruff Rhys wedi tynnu'n ôl o ŵyl gelfyddydol flynyddol yn America wedi iddi ddod i'r amlwg mai byddin y wlad yw un o brif noddwyr y digwyddiad.

Mae o ymhlith dros 80 o artistiaid na fydd yn perfformio yn South by Southwest (SXSW) mewn protest yn erbyn cefnogaeth byddin yr UDA i Israel yn y rhyfel yn Gaza.

Dywedodd mai boicotio'r ŵyl yw'r "defnydd gorau o'm mhlatfform" yn sgil "gor-drais yn erbyn sifiliaid yn Gaza".

Dywed SXSW ei fod yn sefydliad sy'n "croesawu safbwyntiau amrywiol" a'i fod yn "parchu'n llawn" penderfyniad yr artistiaid sydd wedi tynnu'n ôl o'r digwyddiad yn Austin, Texas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae SXSW yn cael ei gynnal yn ninas Austin, Texas ac yn denu dros 300,000 o bobl bob blwyddyn

Dywedodd Gruff Rhys ei fod yn siomedig gan ei fod wedi mwynhau perfformio yn SXSW sawl tro, ac yn "teimlo braidd yn rhagrithiol" gan ei fod, o bosib, ynghlwm â sawl digwyddiad neu fenter "cyfalafol amherffaith" o fewn y diwydiant cerddoriaeth.

Er hynny, dywedodd "fod hon yn foment hanesyddol unigryw a sobreiddiol iawn" a bod "gwerth i ystumiau symbolaidd".

Mae'n cydnabod ei fod yn haws iddo dynnu'n ôl gan ei fod ar daith yn yr Unol Daleithiau beth bynnag, nag i artistiaid eraill gan fod eu grantiau teithio'n ddibynnol ar berfformio mewn digwyddiadau fel SXSW.

Yn yr un neges, cadarnhaodd ei fod hefyd yn tynnu'n ôl o sawl digwyddiad arall am yr un rhesymau.

Cefnogwr milwrol mwyaf Israel

Lansiodd Israel ymgyrch yn Gaza ar ôl i Hamas - y grŵp sy'n rhedeg y diriogaeth ac sy'n sefydliad terfysgol ym marn Llywodraeth y DU - ymosod ar Israel ar 7 Hydref, pan gafodd tua 1,200 o bobl eu lladd a 253 eu cymryd yn wystlon.

Mae dros 30,000 o bobl yn Gaza wedi'u lladd ers hynny, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.

America yw cefnogwr milwrol mwyaf Israel, gan ddarparu biliynau o ddoleri mewn cymorth amddiffyn bob blwyddyn, ac mae nifer o'r arfau y mae Israel yn eu defnyddio yn y gwrthdaro, gan gynnwys jetiau a bomiau, wedi'u cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd SXSW mewn neges ar wefan X: "Mae nawdd i'r fyddin yn rhan o'n hymrwymiad i gyflwyno syniadau sy'n siapio ein byd."

Ychwanegodd y bydd yn "parhau i gefnogi hawliau dynol i bawb", a bod y sefyllfa yn y Dwyrain Canol "yn drasig".