Dyn o Borthmadog wedi marw tra'n rhwyfo ar draws yr Iwerydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Borthmadog oedd yn ceisio rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd ar ei ben ei hun wedi marw yn ystod y daith.
Roedd Michael Holt, sydd â diabetes math 1, yn rhwyfo o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados, ac yn codi arian dros ddwy elusen.
Daeth i'r amlwg bron i wythnos yn ôl fod Mr Holt, 54, wedi dechrau teimlo'n sâl ar y daith ac yna roedd pryder yn sgil trafferthion wrth geisio gwneud cysylltiad ag ef yn y dyddiau wedi hynny.
Yn ôl neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sul, fe gafodd ei ddarganfod wedi marw yng nghaban ei gwch, dros 700 milltir o fan cychwyn y daith.
Dywedodd ei frawd, David ei fod yn "hynod falch" o Michael.
Fe ddechreuodd her Mr Holt ar 27 Ionawr, ac mewn sgwrs gyda Cymru Fyw fe ddywedodd ei fod yn disgwyl i'r daith "gymryd rhwng 50-110 o ddyddiau".
Roedd yn rhagweld gorfod rhwyfo am dros 16 awr y dydd, a chael tua phedair awr o gwsg bob nos.
Doedd dim hofrennydd na chwch yn teithio gyda Mr Holt, ond roedd yn cadw mewn cysylltiad gyda chwmni .
Roedd perthnasau wedi mynegi pryder amdano yn yr wythnos ddiwethaf gan ddweud i ddechrau ei fod yn dioddef salwch môr, ag yntau ei hun yn amau "ymateb drwg i gymryd antibiotics".
O'r herwydd roedd wedi penderfynu peidio ag anelu at Barbados a mynd yn hytrach i ynysoedd Cape Verde, tua 300 milltir i'r de o'i leoliad ar y pryd.
Roedd hynny ddydd Mawrth 20 Chwefror, ond doedd dim ateb ganddo wedi hynny pan roedd ymdrechion i gysylltu â'r cwch.
Aeth awyrennau i'r ardal a gweld ei gwch am 06:30 fore Sul, ond doedd dim golwg o Mr Holt ar y dec, ac fe gafodd sawl cwch eu hanfon yno i ymchwilio.
Fe gyrhaeddodd llong bysgota oedd yn ddigon bach i fynd yn agos i'r cwch - yr oedd Mr Holt yn ei galw'n 'Mynadd' - ac yn ôl neges gan frawd Mr Holt, David "cafodd Michael ei ddarganfod wedi marw yn ei gaban" nos Sul.
Ychwanegodd: "Wrth gwrs, nid dyma'r canlyniad roedden ni'n dymuno, ond mae yna rywfaint o gysur o wybod ei fod wedi marw yn gwneud rhywbeth roedd wrth ei fodd yn ei wneud."
"Mae hyn yn sioc enfawr i mi, ei wraig Lynne a'i ferch Scarlett a fy rhieni, heb sôn am deulu ehangach a ffrindiau Michael.
"Diolch yn fawr am y geiriau a dymuniadau caredig eisoes yn y diwrnodau diwethaf. Maen nhw'n golygu llawer i'r teulu i gyd."
'Cyflawniad anhygoel'
Yn siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru ddydd Llun dywedodd David ei fod yn "hynod falch o Michael".
"Er be' sydd 'di digwydd, mae rhwyfo ar y môr agored am 24 diwrnod a theithio dros 700 o filltiroedd yn anhygoel," meddai.
"Mae'n debyg fod 'na reswm pam fod neb efo diabetes math 1 erioed wedi rhwyfo ar draws fôr yr Iwerydd.
"Ond pan mae Michael yn cael syniad yn ei ben, dyna fo. Ma' be' mae o wedi'i gyflawni yn anhygoel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr