Y ras i arwain Llafur Cymru yn 'hynod o agos'

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Miles a Vaughan Gething - y ddau yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru

Mae aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur yng Nghymru yn dweud bod y gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth, rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles, yn un hynod o agos ar drothwy'r hysting cyntaf nos Sul.

Does dim amcan pa un yw'r ceffyl blaen, medd Cathy Owens - cyn-ymgynghorydd arbennig i'r diweddar Brif Weinidog Rhodri Morgan - gan fod hi'n anodd cael sampl hollol fanwl o blith y rhai sy'n mynd i bleidleisio.

Dim ond y rheiny sy'n aelod o'r Blaid Lafur Gymreig neu o sefydliad cysylltiedig fel un o'r prif undebau llafur sy'n gallu pleidleisio.

Mae Mr Gething, Gweinidog yr Economi, a Mr Miles, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, wedi cyhoeddi eu maniffestos, sy'n dangos bod dim llawer yn eu gwahaniaethu o ran polisïau.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales, fe awgrymodd Cathy Owens bod Mr Miles yn ceisio gosod ei hun o fewn traddodiad canol chwith, fel Rhodri Morgan a'i olynydd yntau Carwyn Jones, tra bod gan Mr Gething fantais o gael proffil uwch.

Dywedodd: "Ry'n ni angen clywed 'chydig mwy ganddynt i weld yr hyn sy'n eu gwahaniaethu.

"Mae'n gystadleuaeth rhy agos i'r darogan, a dydy nhw eu hunain ddim yn gwybod felly os yw unrhyw un yn dweud wrthoch chi eu bod am ennill gwneud stori maen nhw.

"Does neb yn gwybod gan nad yw'n glir, oherwydd mae'n ddiarhebol o anodd i samplu'r etholwyr yma.

"Hyd yn hyn dyw'r polisïau ddim mor wahanol â hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddau ymgeisydd wedi datgan bwriad i lynu gyda'r cyfyngiad 20 mya newydd ac i adolygu sut mae'n cael ei weithredu

Pwysleisiodd Ms Owens bod dim disgwyl yr un math o "weledigaeth o ddau ben y sbectrwm gwleidyddol" mewn ras i arwain plaid fel sy'n digwydd yn ystod etholiad cyffredinol.

"Un plaid yn unig yw hon, a dyw e ddim hyn yn oed yn weledigaeth o ddau ben y Blaid Lafur," ychwanegodd.

Ar drothwy'r hysting cyntaf nos Sul, bydd aelodau'r blaid, meddai, "yn dechrau gofyn cwestiynau am ba mor wahanol fyddan nhw" gyda'r naill ymgyrch a'r llall "yn ceisio dangos y gwahaniaeth rhwng y ddau blatfform polisi".

Fe allai degau o filoedd o aelodau undeb fod yn gymwys i bleidleisio ond yn draddodiadol mae'r nifer sydd yn bwrw pleidlais yn isel yn ystod gornestau arweinyddiaeth Llafur. Mae disgwyl i'r ganran sy'n pleidleisio fod yn uwch ymhlith aelodau Llafur Cymru - cyfanswm o tua 16,000, yn ôl y gred.

Mae Vaughan Gething wedi sicrhau cefnogaeth y prif undebau ond mae Jeremy Miles wedi sicrhau mwy o gefnogaeth ymhlith ei gyd-aelodau Llafur yn Senedd Cymru.

Mae'r bleidlais yn agor ar 16 Chwefror tan 14 Mawrth, a bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth.