Achub pum dolffin aeth yn sownd ar draeth ar Ynys M么n

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Bae Cemaes

Disgrifiad o'r llun, Cafodd chwech o ddolffiniaid eu canfod ar draeth ar Ynys M么n fore Mercher

Mae pum dolffin wedi cael eu hachub a'u dychwelyd i'r m么r ar 么l iddyn nhw fynd yn sownd ar draeth ar Ynys M么n.

Cafodd y dolffiniaid eu canfod fore Mercher ar draeth ger Y Fali ger Caergybi, ac fe lwyddodd achubwyr i'w rhoi yn 么l yn y d诺r wrth i'r llanw ddod i mewn.

Dywedodd corff y British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) bod gwirfoddolwyr wedi llwyddo i gyfeirio mwyafrif yr haid yn 么l i'r m么r.

Ond fe gafodd corff un dolffin ei ganfod yn farw ar y lan y bore canlynol.

Mae dolffiniaid yn medru goroesi allan o'r d诺r am tua 12 awr, ond mae pwysau eu cyrff ar y tir yn golygu bod pwysedd yn gallu atal ocsigen rhag cyrraedd eu horganau, a gall hynny fod yn angheuol.

Fe wnaeth y BDLMR yrru t卯m o wirfoddolwyr sy'n arbenigwyr ar famaliaid morol er mwyn rhoi cymorth cyntaf i'r dolffiniaid.

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Bae Cemaes

Disgrifiad o'r llun, Mae dolffiniaid yn medru anadlu yn yr awyr agored, ond mae'n anodd iddyn nhw oroesi allan o'r d诺r

Gyda help gan wirfoddolwyr eraill ac o ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali, fe wylion nhw'r pedwar dolffin cyntaf yn ceisio nofio yn 么l i'r m么r ar y llanw.

Ond wrth i'r m么r gilio roedd y t卯m yn bryderus y gallen nhw fynd yn sownd eto.

Aeth aelodau meddygol y criw i'r m么r i gynorthwyo, gan gyfeirio'r dolffiniaid tuag at dd诺r agored, ac fe lwyddodd yr anifeiliaid i gyrraedd yno yn y diwedd.

Ychwanegodd y BDLMR fod un o ddau ddolffin a ddiflannodd wrth i'r llanw godi wedi cael ei ganfod yn farw, ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal gan arbenigwyr.