Lansio maniffesto Miles: Twf economaidd yn flaenoriaeth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jeremy Miles, gweinidog y Gymraeg ac addysg, yn lansio ei faniffesto ddydd Iau

Twf economaidd cynaliadwy fyddai ei brif flaenoriaeth pe bai'n dod yn brif weinidog, meddai Jeremy Miles.

Mae gweinidog y Gymraeg ac addysg wedi lansio ei faniffesto ddydd Iau ac yn addo cynllun "rhentu i fod yn berchen" i helpu pobl i brynu cartref.

Mae hefyd am gyflwyno ymgynghoriad menopos i fenywod 40 oed, ac mae'n ymrwymo i adolygiad o gymorth i fusnesau.

Er bod manylion yr adolygiad hwnnw eto i ddod, mae penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75% i 40% ar gyfer tafarndai, siopau a bwytai wedi cael ei feirniadu'n hallt gan grwpiau lletygarwch.

'Cyfleoedd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Mr Miles bod cyfle i greu "economi gynaliadwy, economi werdd" wrth drawsnewid yr economi.

"Bydd cyfleoedd yn dod yn sgil hynny," meddai.

"Mae 'na gyfleoedd yn dod o ran swyddi cynaliadwy sy'n talu'n dda mewn sectorau fydd gyda ni am ddegawdau a mwy yn y dyfodol - dyna sydd wrth wraidd y maniffesto.

"Mae cynyddu'r economi yn gynaliadwy, yn cynnig cyfle i ni hefyd fynd i'r afael gyda heriau fel tlodi a phobl sy'n gweithio ond ddim yn ennill digon i allu cefnogi teuluoedd ac ati."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wedi mynd yn un anodd iawn, medd Jeremy Miles

Dywedodd hefyd bod rhaid edrych o'r newydd sut mae cefnogi busnesau.

"Os edrychwn ni yn rhyngwladol, yn Sbaen, Canada a Seland Newydd a llefydd eraill - mae ganddyn nhw ffordd wahanol o ddarparu cefnogaeth o ran marchnata, hyfforddiant ac arloesi," ychwanegodd.

"Mae cyfle felly yn y dyfodol i ni edrych eto, a sicrhau bod yr hyn ni'n ei wneud yn addas ar gyfer y newidiadau sydd yn dod i'n heconomi ni.

"Mae'n rhaid sicrhau fod ein prifysgolion ni a'n busnesau ni a'n buddsoddwyr ni a'r llywodraeth yn cydweithio yn agos ar flaenoriaethau economaidd."

'Gwlad fwy ffyniannus'

Mae hefyd am weld ehangu ar ôl-osod ynni effeithlon mewn cartrefi, cymhellion ariannol i raddedigion diweddar i sefydlu busnesau yng Nghymru ac ymgyrch 'Gwneud hi yng Nghymru' i ddod â Chymry ar wasgar adref.

Mae Mr Miles eisoes wedi addo cynyddu'r ganran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gwario ar addysg.

Bu'n lansio'r maniffesto yng Ngholeg Peirianneg Llandrillo yn Y Rhyl fore Iau.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Vaughan Gething - yr ymgeisydd arall i ddod yn brif weinidog - gyhoeddi ei faniffesto ddydd Sadwrn

Mewn cyfweliad diweddar, roedd hefyd yn cefnogi'r syniad o'r DU yn ailymuno â marchnad sengl yr UE, a dywedodd y byddai'n dadlau'n gryf dros hynny gyda Syr Keir Starmer pe bai yntau'n dod yn Brif Weinidog y DU.

Ar ddatganoli pwerau pellach, mae Mr Miles yn cefnogi trosglwyddo rheolaeth dros blismona, cyfiawnder a'r gwasanaeth prawf i Gymru.

Un o addewidion ei arweinyddiaeth yw sicrhau'r hyn y mae'n ei alw'n "fargen decach i Gymru" mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.

Wrth ateb cwestiwn am berthynas Cymru a'r DU dywedodd fod y "sefyllfa wedi mynd yn un anodd iawn".

"Rwy'n gobeithio y cawn ni lywodraeth Lafur yn San Steffan cyn bo hir a chyfle i gael perthynas lawer tecach.

"Dewis gwleidyddol yw hi i'r Prif Weinidog presennol i beidio ymwneud â Phrif Weinidog Cymru. Nid dyna'r peth iawn i'w wneud ac yn y pen draw, mae hynny yn her i undeb y Deyrnas Unedig.

"Dyna pam rwy'n dadlau mor gryf bod angen parchu datganoli ac ymestyn datganoli hefyd."

'Cenhadaeth glir'

Dywedodd Mr Miles: "Mae'r maniffesto rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn gosod cenhadaeth glir ar gyfer dyfodol Cymru.

"Bydd llywodraeth yr wyf yn ei harwain yn canolbwyntio ar flaenoriaethau o ddydd i ddydd pobl ledled Cymru, a bydd y blaid yr wyf yn ei harwain wedi'i gwreiddio yn ein cymunedau, gan gyflwyno syniadau newydd a llawn dychymyg sy'n adlewyrchu profiadau dydd i ddydd pobl ledled ein cenedl.

"Nid yw'r gystadleuaeth hon amdanaf i - nac yn wir unrhyw unigolyn. Mae'n ymwneud â'r hyn y mae angen i Gymru ei wneud dros y degawd nesaf i newid ein trywydd a ffynnu."

Mae'n cydnabod hefyd y cyfyngiadau ariannol presennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod costau cynyddol wedi gostwng ei phŵer gwario £1.3bn mewn termau real ac mae wedi gwneud toriadau sylweddol yn gyffredinol yn ei chyllideb ddiweddar - yn bennaf i ddargyfeirio arian i'r GIG.

"Tra bod y sefyllfa gyllidebol bresennol yn gosod cyfyngiadau gwirioneddol ar fentrau gwario newydd yn y tymor byr, ni fydd hyn yn cyfyngu ar ein huchelgeisiau nac yn amharu ar yr angen i fod yn radical a dychmygus," meddai Mr Miles.

Mae'r ymgeisydd arall i ddod yn brif weinidog - y Gweinidog Economi Vaughan Gething - wedi lansio ei ymgyrch ef.