Llyfrau mwyaf cariadus Cymru

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen - dydd y cariadon. Ond pam cyfyngu cariad i un diwrnod yn unig?

Yma mae Mari Siôn, o Gyngor Llyfrau Cymru, a chyflwynydd y podlediad Caru Darllen, wedi llunio rhestr o'r llyfrau Cymraeg sydd am wneud i chi deimlo'n gariadus unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Llyfr Bach Jac y Jwc (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) a Curiad Coll (Rily)

Llyfr Bach Jac y Jwc gan Mary Vaughan Jones, lluniau Jac Jones

Yn y gyfrol hon cafwyd ymddangosiad cyntaf un o gyplau mwyaf eiconig llenyddiaeth Gymraeg - Jac y Jwc a Jini. Llyfr dysgu darllen yw Llyfr Bach Jac y Jwc, ond drwy ddarluniau cofiadwy Jac Jones, daeth y cymeriadau'n fyw i genedlaethau o blant. Yma, mae'r ddau yn golchi a sychu'r llestri gyda'i gilydd, yn mynd am dro, ac yn gweld sioncyn y gwair. 'Mae Jini yn chwerthin ac mae Jac y Jwc yn chwerthin.' Diwrnod i'r brenin!

Curiad Coll - addasiad Alun Saunders

Mae cyfres Heartstopper gan Alice Oseman wedi bod yn aruthrol o boblogaidd, ac wedi'i throsi yn gyfres Netflix lwyddiannus. Drwy addasiad hyfryd Alun Saunders, bellach mae gan ddarllenwyr gyfle i ddilyn stori gariad Nick a Charlie drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma nofel graffeg arbennig, sy'n archwilio cariad cyntaf, dod allan, a iechyd meddwl mewn modd gynnes a chofiadwy.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Sêr y Nos yn Gwenu (Y Lolfa), Cysgod y Cryman (Gwasg Gomer) a Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa)

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam

Dyma stori Leia a Sam, ddaeth i 'nabod ei gilydd gyntaf ym Mlwyddyn Dau, wedi i'r ddau ddod i eistedd gyda'i gilydd yn y dosbarth. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae bywyd yn fwy cymhleth. Nofel am gariad, am golli ffordd, am gyfeillgarwch, am golled, am gymuned. Nofel berffaith ar gyfer unrhyw un gafodd flas ar Normal People gan Sally Rooney.

Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis

'Go iawn?' dwi'n eich clywed chi'n gofyn. Ond dwi'n sicr fod cariad yn gwbl ganolog i un o glasuron ein llên. Cariad at deulu, at dir, at gymuned, a dylanwad syniadaeth wleidyddol radical ar y cariad hwnnw. Heb sôn am berthynas Harri, Gwylan a Marged, Greta, Paul a Karl. Os nad yw hynny'n ddigon o reswm i estyn eto am eich copi, fe fyddwn ni'n nodi can mlynedd ers geni Islwyn Ffowc Elis eleni, tad y nofel gyfoes Gymraeg.

Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel

Chwilio am rom-com o nofel? Ewch ati i ddarllen llyfr gan Marlyn Samuel yn ddiymdroi. Dyma awdur sy'n feistres ar saernïo stori dda, yna ei llenwi i'r ymylon â chymeriadau crwn, hiwmor ffraeth a digon o ramant. Yn Pum Diwrnod a Phriodas daw dau deulu ynghyd ar gyfer priodas yn yr Eidal, heb wybod bod cwlwm eisoes yn bodoli rhyngddynt. Nofel ddelfrydol ar gyfer swatio o flaen y tân.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Arlwy'r Sêr (Gwasg Carreg Gwalch), Cariad (Barddas) a Tylwyth (Y Lolfa)

Arlwy'r Sêr gan Angharad Tomos

Nofel yn seiliedig ar hanes bywydau R. Silyn Roberts a'i wraig Mary Silyn. Bardd, athro, a Sosialydd o Ddyffryn Nantlle oedd Silyn. Un o Gymry Llundain oedd Mary Parry, arian byw o ferch, trefnydd heb ei hail, ac awen Silyn. Dyma stori garu dyner, sydd hefyd yn dathlu cydweithio ac ymgyrchu'r ddau dros addysg i bawb. Dyma stori a fydd yn eich annog a'ch ysbrydoli i gredu bod modd gwireddu breuddwydion.

Cariad - gol. Mari Lovgreen

Wrth olygu'r gyfrol hon, daeth Mari Lovgreen i'r casgliad nad oes 'yna ffasiwn beth â gormod o gerddi am gariad'. Dyma ddetholiad o gerddi sy'n dathlu cariad o bob math, o serch a nwyd i gariad at wlad, at ffrindiau a theulu. Dewiswyd pob cerdd gan Mari am eu bod wedi llwyddo i wneud iddi deimlo rhywbeth ac wedi ennyn ymateb, ac mae'n gasgliad sy'n gafael yn syth. Gyda darluniau hyfryd gan Anna Gwenllian, dyma gyfrol fyddai'n gwneud anrheg berffaith.

Tylwyth gan Dafydd James

Mae Tylwyth yn ddilyniant i'r ddrama arloesol Llwyth. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Aneurin wedi syrthio mewn cariad â Paul ac wedi mabwysiadu dau o blant. Wrth addasu i'w fywyd fel tad, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd. Dyma olwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, sy'n llwyddo i gynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes. Bydd dawn dweud y dramodydd Daf James yn eich llorio.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Sut i Drefnu Priodas Pum Mil (Sebra) a Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens (Y Lolfa)

Sut i Drefnu Priodas Pum Mil gan Trystan Ellis-Morris, Emma Walford, Alaw Griffiths

Dyma'r gyfrol berffaith ar gyfer unrhyw bâr sydd newydd ddyweddïo! Llond cyfrol o syniadau, awgrymiadau a chynghorion ar sut i drefnu'r diwrnod priodas delfrydol, gan dri sy'n dipyn o arbenigwyr yn y maes. Dyma gyfrol y bydd unrhyw ffan o'r rhaglen deledu hefyd yn ei mwynhau, wrth i'r tri ddatgelu mwy am y cyffro, y cyfrinachau a'r profiad o drefnu holl briodasau'r gyfres. Gyda lluniau lliw, dyfyniadau a rhestrau defnyddiol dyma gyfrol fendigedig i'w bodio'n llon.

Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens gan Gwenllian Ellis

Dyma lyfr sy'n archwilio snogio, secs a Spar Pwllheli, am fod yn ormod a ddim yn ddigon ar yr un pryd, am ganfod sens pan sgen ti'm syniad. Dathliad gwirioneddol o gariad teulu a ffrindiau. Fel y noda'r awdur yn y gyfrol, 'Tydi cariad ddim angen cael ei weiddi drwy'r megaffon bob amser, mae o'n medru bod yn rhywbeth sy'n llosgi'n ddistaw ac yn ffyddlon, a byth yn bygwth diffodd.'

Mae'r llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael nawr o'ch .