Â鶹ԼÅÄ

Rees-Zammit: Newyddion 'gwbl ysgytwol' ym myd rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mae Louis Rees-Zammit yn gadael rygbi er mwyn symud i'r NFLFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit yn gadael rygbi er mwyn symud i'r NFL

Ein gohebydd chwaraeon Cennydd Davies sy'n dadansoddi diwrnod o newyddion annisgwyl ym myd rygbi Cymru.

Mae'n dilyn y cyhoeddiad gan Glwb Rygbi Caerloyw eu bod wedi dod â chytundeb Louis Rees-Zammit i ben ar unwaith er mwyn galluogi'r Cymro i roi cynnig ar chwarae Pêl-droed Americanaidd.

Daw'r cyhoeddiad wrth i Warren Gatland gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Pan ry'ch chi'n meddwl eich bod chi 'di gweld pob dim o ran rygbi Cymru, mae 'na wastad rywbeth rownd y gornel i synnu pawb. Heb os mi oedd y newyddion ynglŷn â Louis Rees-Zammit yn gwbl ysgytwol.

Pendroni dros ambell i chwaraewr a phroblemau anafiadau - dyna oedd pawb yn tybio oedd wrth wraidd yr oedi tu ôl i gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r ffaith i'r cyhoeddiad ddod dri chwarter awr yn hwyr. Fyddai neb wedi darogan y newyddion fyddai'n dod... stori i greu cryndod ar draws y byd rygbi.

Ar yr arwyneb mae'n stori anferthol sy'n mynd i rygnu ymlaen. Mae'n ergyd i Gymru eu bod nhw nawr yn mynd i golli gwasanaeth un o'i sêr mwyaf ar adeg pan mae chwaraewyr eisoes wedi ymddeol ac anafiadau wedi llethu'r paratoadau. Doedd dim disgwyl i Rees-Zammit aros yn yr unfan. Fe fyddai wedi codi pac a gadael Caerloyw ar ddiwedd y tymor (gyda Japan neu Ffrainc yn leoliadau posib) ond fe ddaeth y cynnig unigryw hwn yn annisgwyl ac yn amhosib ei wrthod.

Sioc ar y naill law o bosib, ond efallai na ddylem synnu ynglŷn â dyheadau personol y chwaraewr. Dim ond y llynedd mi wnaeth grybwyll yn glir mai ei ddymuniad oedd bod yn seren fyd-enwog. A fydd hynny nawr yn cael ei wireddu? Pwy a ŵyr, ond ag yntau'n ddwy ar hugain oed mae amser o'i blaid ac os nad yw'n cyrraedd y brig ar ochr arall yr Iwerydd yna fydd y drws dal yn agored er mwyn dychwelyd cyn Cwpan y Byd nesa yn 2027.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jenkins sydd wedi'i enwi yn gapten - ag yntau ond yn 21 oed

Ar unrhyw ddiwrnod arall, mi fyddai'r newyddion ynglŷn â'r capten newydd Dafydd Jenkins a'r pump sydd eto i ennill capiau rhyngwladol (sef y pedwar o Gaerdydd - Alex Mann, Efan Lloyd, Mackenzie Martin a Cameron Winnett) ynghyd ag Archie Griffin yn ddipyn o stori ynddo'i hun. Ond mae'r cyfan, wrth reswm, wedi llithro i'r cefndir yn sgil datblygiadau'r oriau diwethaf.

Yr hyn sy'n amlwg ynglŷn â rygbi Cymru yn sgil hyn yw'r naratif ynglŷn ag ail-adeiladu ac edrych ar y genhedlaeth nesa. Y gwir yw does fawr o opsiynau gan Warren Gatland yn sgil anafiadau a rhai'n ymddeol.

Mewn sefyllfa 'arferol' heb y wasgfa ariannol mae'n bosib na fyddai'r chwaraewyr yma wedi bwrw'i swildod ar y lefel ranbarthol. Mae hynny i gyd yn wir wrth gwrs ond mae'n gam anferthol i'r chwaraewyr hynny sy' mor ifanc a mor ddi-brofiad.

Y gobaith yw y bydd mentro ar y to iau yn dwyn ffrwyth yn y pen-draw, ond mae'n bur debygol y bydd rhaid profi rhyw gyfnod anodd yn y tymor byr. Yn hynny o beth dyw'r disgwyliadau ddim yn uchel lai na thair wythnos cyn dechrau'r Chwe Gwlad a theimlad o ddechrau o'r newydd.

Carfan Cymru yn llawn

Blaenwyr: Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Ryan Elias, Evan Lloyd*, Keiron Assiratti, Leon Brown, Archie Griffin*, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capten), Will Rowlands, Teddy Williams, Taine Basham, James Botham, Alex Mann*, Mackenzie Martin*, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.

Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Ioan Lloyd, Mason Grady, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Rio Dyer, Tom Rogers, Cameron Winnett*.

*heb gap rhyngwladol

  • Dydd Sadwrn, 3 Chwefror - Cymru v Yr Alban

  • Dydd Sadwrn, 10 Chwefror - Lloegr v Cymru

  • Dydd Sadwrn, 24 Chwefror - Iwerddon v Cymru

  • Dydd Sul, 10 Mawrth - Cymru v Ffrainc

  • Dydd Sadwrn, 16 Mawrth - Cymru v Yr Eidal

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw ar neu .

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig