Gwastadeddau Gwent: Ardal 'hyfryd' dan fygythiad gan waith datblygu

  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

Mae mudiadau amgylcheddol a phentrefwyr yn dadlau fod Gwastadeddau Gwent yn wynebu bygythiad newydd ac yn cael eu rhoi o "dan bwysau aruthrol gan ddatblygwyr".

Mae'r safle yn cael ei ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol ac yn un o'r darnau mwyaf o gorsydd a ffosydd pori sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Bellach mae miloedd o bobl wedi llofnodi deisebau yn galw am atal unrhyw ddatblygiad sylweddol ar y lefelau.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Natur Gwent (GWT) bod "ceisiadau cynllunio lluosog i ddatblygu'r ardal" wedi eu cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf.

Pryderu am ddatblygiadau'r dyfodol

Yn 2019 llwyddodd yr elusen i atal cynllun dadleuol ffordd liniaru'r M4 gwerth £1.4 biliwn a fyddai wedi golygu datblygu rhan o lefelau Gwent.

Erbyn hyn, maen nhw'n dweud bod pryderon o'r newydd ynglŷn â datblygiadau yn y dyfodol gan gynnwys ffermydd solar, a'r effaith y gallai datblygiadau o'r fath gael ar y tirwedd.

Un o'r cynlluniau sy'n achosi pryder i ymgyrchwyr yw cynllun fferm solar Craig y Perthi a fyddai'n cael ei hadeiladu rhwng yr M4 ac i'r gogledd o waith dur Llanwern.

Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai'n cynhyrchu digon o ynni i gwrdd ag anghenion ynni dros 45,000 o gartrefi ac yn arbed dros 3,180,000 tunnell o CO2.

Eisoes mae grwpiau lleol wedi lleisio pryder am y cynllun ac yn dweud eu bod yn poeni am yr effaith bosib ar y lefelau a'r dirwedd leol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wrthi yn ffurfio canllawiau cynllunio strategol i amddiffyn y gwastadeddau.

Disgrifiad o'r llun, Mae Diana Callaghan wedi byw ar y lefelau ers dros 25 mlynedd

Dywedodd Diana Callaghan ei bod yn "ardal hyfryd, wrth ymyl y môr. Lle gwych i fod, i fyw ac i gerdded."

"Ond fel un sy'n byw yma rwy'n poeni'n fawr fod yr ardal dan fygythiad."

Datblygiadau newydd yn 'siom'

Nid dyma'r tro cyntaf i'r ardal fod o dan fygythiad yn ôl Mike Webb, rheolwr cynllunio Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Dywedodd: "Mae'r ardal 'ma wedi bod o dan fygythiad gan wahanol fathau o ddatblygiad ers yr 80au, 70au."

Ychwanegodd: "Am ryw reswm mae'r awdurdodau yn ystyried yr ardal yma fel targed ar gyfer datblygiad caled.

"Mae'n SSSI - mae hynna'n meddwl bod e 'di cael ei dynodi ar lefel Prydain yn swyddogol ar gyfer ei bywyd gwyllt."

Dywedodd ei fod yn "siom i mi ac i'r ymddiriedolaeth ein bod ni wedi dod o dan fygythiad unwaith eto".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mike Webb rheolwr cynllunio Ymddiriedolaeth Natur Gwent bod yr awdurdodau yn targedu'r ardal ar gyfer datblygiadau

Mae'r ymddiriedolaeth yn dadlau mai dim ond 8% o dirwedd Cymru sydd wedi eu clustnodi fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu SSSIs, a dylid gwarchod y safleoedd yma, gan addasu rheolau cynllunio er mwyn sicrhau hyn.

Mewn ymateb mae Robin Johnson, o gwmni ynni adnewyddol RWE a rheolwr prosiect fferm solar Craig y Perthi, yn dweud fod y cwmni yn cydnabod ac yn deall y pryderon lleol.

Ond mae'n bwysig, meddai, i edrych a deall sut y gall y cynllun fod o fudd i fywyd gwyllt.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Robin Johnson ei bod hi'n bwysig edrych a deall sut gall y cynllun fod o fudd i fywyd gwyllt

Dywedodd Mr Johnson: "Mae'r cyfleodd i fywyd gwyllt fan hyn yn enfawr o ran adar, ymlusgiaid a blodau.

"Fe fyddai'r prosiect yn agor ardal werdd hyfryd i'r gymuned gyda chyfanswm o 129 erw yn llawn blodau a bywyd gwyllt lle byddai modd i bobl grwydro ar dir fyddai ar wahân i hynny, yn dir preifat."

Mae Jonathan Hughes sy'n ffermio ar y tir yn cefnogi gwarchod y lefelau a'r alwad i beidio â bwrw ymlaen â datblygiadau mawr ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, fel Gwastadeddau Gwent.

Dywedodd: "Mae yn wlyb yma ac rwy' wedi gwneud lot o waith draenio ar y tir.

"Dwi yn dal i ddyfalu sut ma' ffermio ar lefelau Gwent ac mae lot o heriau, felly rwy' dal yn dysgu!"

Disgrifiad o'r llun, Mae Jonathan Hughes yn ffermio ar y tir ac o'r farn bod angen ehangu ar y ffermio sy'n digwydd ar y safle

Dywedodd mai un ffordd o ddiogelu'r lefelau fyddai rhoi mwy o gefnogaeth i'r syniad o ddefnyddio'r dirwedd i dyfu llysiau organig, ac mae'n dweud bod cyfle yn cael ei golli.

Dywedodd: "Rwy'n gallu tyfu pob dim ar y tir yma os wyt ti yn edrych ar ei ôl e yn iawn."

Yn ôl llefarydd GWT mae dros 5,000 o bobl eisoes wedi cefnogi deisebau yn galw am atal datblygiadau mawr ar y lefelau.

Bu'r ymddiriedolaeth yn casglu enwau ar-lein ac mae deiseb arall i'w hystyried gan bwyllgor deisebau Senedd Cymru.

Os ydy'r ddeiseb yn llwyddo i sicrhau 10,000 o enwau erbyn 25 Ionawr, bydd wedi cyrraedd y trothwy o lofnodion sydd ei angen i'r pwyllgor deisebau ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio ar ganllawiau cynllunio strategol i amddiffyn Gwastadeddau Gwent rhag bioamrywiaeth annerbyniol ac unrhyw effaith ar y tirlun.

"Rydym hefyd wedi diweddaru y polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pob safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael eu diogelu."