Â鶹ԼÅÄ

Neil Foden: Prifathro yn wynebu 21 o gyhuddiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden bellach wedi'i gyhuddo o 21 o droseddau yn erbyn chwe achwynydd

Mae prifathro o'r gogledd bellach yn wynebu 21 o gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau rhyw.

Mae Neil Foden, sy'n 66 oed ac o Hen Golwyn, Sir Conwy, yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â chwe achwynydd - pum merch rhwng 12 a 17 oed ac un oedolyn.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y cyhuddiadau'n cynnwys gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn a bod ym meddiant lluniau a fideos anweddus.

Mae'r cyhuddiadau'n dyddio o fis Ionawr 2019 hyd at fis Medi 2023, ac mae 15 ohonynt yn ymwneud ag un ferch sy'n iau na 16 oed.

Fe ymddangosodd yn y llys ddydd Gwener trwy gysylltiad fideo o Garchar y Berwyn gan bledio'n ddieuog ymhob achos.

Cafodd ei arestio yn wreiddiol ym mis Medi y llynedd, ac fe gafodd ei wahardd o'i waith gan ei gyflogwr.

Mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 22 Ebrill, gan bara hyd at dair wythnos.

Pynciau cysylltiedig