Â鶹ԼÅÄ

Trafferthion S4C yn 'arfogi pobl sydd am waed y sianel'

  • Cyhoeddwyd
Bedwyr Rees
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bedwyr Rees, cyfarwyddwr cwmni Rondo, fod S4C yn "drysor"

Mae cyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol blaenllaw yn dweud fod yr anghydfod cyhoeddus yn S4C yn "arfogi" pobl sydd "am waed" y sianel.

Yn ôl Bedwyr Rees, cyfarwyddwr cwmni Rondo, mae yna "ddyfodol ffyniannus i S4C," a hynny "er bod unrhyw anfodlonrwydd yn achosi ansicrwydd".

Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn ei bod hi'n bwysig camu'n ôl o'r sefyllfa bresennol am eiliad a sylweddoli "be 'di'r trysor sydd gynnon ni ar ein dwylo".

Daw ei sylwadau wedi i gyn-brif weithredwr y sianel, Siân Doyle, a'r cyn-bennaeth cynnwys, Llinos Griffin-Williams gael eu diswyddo ddiwedd 2023.

Mae'r ddwy wedi dweud bod eu diswyddiadau yn annheg.

"Fy mhoen i ydy, wrth i ni chwarae hyn i gyd allan yn gyhoeddus mai'r hyn 'dan ni'n ei 'neud ydy arfogi ymhellach y rhai sy'n hogi cyllyll am waed S4C ac am annibyniaeth S4C," meddai Mr Rees.

Ychwanegodd Bedwyr Rees bod S4C yn "rhywbeth sy'n annwyl iawn, iawn i'r gynulleidfa" a bod yna nifer o bobl o fewn y diwydiant yn gweithio'n ddiflino i sicrhau dyfodol y sianel.

"Dwi wedi siarad â nifer iawn o bobl yn ystod y Nadolig ac yn y tafarndai ac ar lawr gwlad - mae nifer o bobl wedi dod ata'i i siarad am gynnwys S4C gan ofyn: 'Be ti'n feddwl o hwn. Be ti'n feddwl o'r llall?'

"Mae pobl yn dadansoddi'r cynnwys, yn trafod ydy o'n eu herio ac yn isymwybodol maen nhw'n gwybod bod y peth yma yn annwyl iawn ac yn agos at eu calonnau nhw," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Bedwyr Rees: 'Yn sylfaenol mae S4C yn hawl dynol a gwaelodol i gael darlledu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg'

Dywedodd bod yn rhaid cofio am deyrngarwch y gynulleidfa wrth symud ymlaen ac am ddycnwch nifer o weithwyr yn y maes.

"Mae 'na bobl o fewn S4C na ŵyr y cyhoedd amdanyn nhw, na'u henwau nhw - 'nathon nhw 'neud o yn ystod Covid ac mae wedi digwydd eto yn ystod y misoedd diwethaf.

"Maen nhw'n bobl sy'n coelio be ydy S4C yn ei sylfaen. Yn sylfaenol mae S4C yn hawl dynol a gwaelodol i gael darlledu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

"Mae'r bobl yma yn dawel bach - dim ots be sy'n digwydd o'u cwmpas nhw, yn iro'r peirianwaith - yn g'neud yn siŵr fod pob dim yn dal i droi.

"Mae'r cyfuniad o'r bobl yma a sector annibynnol sydd wir yn credu yn S4C... a grym creadigol y sector annibynnol yna - mae'r cyfuniad yna yn golygu bod y llong yn dal i hwylio waeth beth ydy'r storm o gwmpas."

Ychwanegodd ei fod yn "ffyddiog iawn ein bod ni i ddod i ddŵr tawelach a dyfodol ffyniannus i S4C".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Rondo, ble mae Bedwyr Rees yn gyfarwyddwr, yn cynhyrchu cyfresi fel Rownd a Rownd, Sgorio a Bariau

Mae cwmni Rondo yn cynhyrchu nifer o raglenni i S4C - yn eu plith Rownd a Rownd a Sgorio, a nos Fercher bydd y ddrama Bariau yn cael ei darlledu.

Wrth drafod y dyfodol ychwanegodd Mr Rees bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i gwmnïau annibynnol ar draws y DU ond "gyda heriau mae 'na gyfleon hefyd".

Ychwanegodd bod y sector annibynnol yng Nghymru yn "rymus eithriadol" a bod adroddiad blynyddol diwethaf S4C yn dangos bod 71 o gwmnïau wedi bod yn rhan o baratoi cynnwys i'r sianel.

"Mae gan bob un o'r rheina rywbeth i'w gynnig, nid yn unig i Gymru ond i'r byd. Dwi'n teimlo bo' ni'n edrych ymlaen gyda gobaith," ychwanegodd.