Â鶹ԼÅÄ

Gweinidog: 'Dylai Llywodraeth y DU ymyrryd yn S4C'

  • Cyhoeddwyd
S4C

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Llywodraeth y DU ymyrryd yn dilyn honiadau o fwlio yn S4C.

Tra'n siarad ar Â鶹ԼÅÄ Politics Wales, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru ei bod wedi ysgrifennu at Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) yn holi beth ddylai'r camau nesaf fod.

Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, y byddai'n "ddigynsail" i Lywodraeth y DU gymryd rhan mewn "materion adnoddau dynol" mewn sefydliad cyfryngol.

Clywodd adroddiad i honiadau o fwlio yn S4C, a gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, fod Prif Weithredwr y darlledwr - sydd bellach wedi ei diswyddo - "wedi ymddwyn fel unben".

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru, ac felly i'r DCMS ac nid Llywodraeth Cymru y mae S4C yn atebol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dawn Bowden nad oedd hi'n credu y dylai'r Â鶹ԼÅÄ gymryd drosodd y gwaith o redeg S4C.

Pan ofynnwyd iddi a ddylai'r DCMS nawr ymyrryd yn S4C, dywedodd Dawn Bowden: "Rwy'n credu hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr ysgrifennydd gwladol a gofyn iddi roi gwybod i mi beth yw'r camau nesaf y mae hi'n eu hystyried.

"Er nad yw S4C yn gyfrifoldeb datganoledig, mae gennym ni berthynas waith agos iawn gyda nhw. Maen nhw'n bwysig iawn i Gymru.

"Felly rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod S4C yn sefydliad Cymreig llwyddiannus," ychwanegodd.

Dywedodd Ms Bowden hefyd nad oedd hi'n credu y dylai'r Â鶹ԼÅÄ gymryd drosodd y gwaith o redeg S4C.

"Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf yn meddwl y dylem fod yn anelu tuag ato fyddai fy marn i, ond eto, mater i'r DCMS yw hynny."

'Tanseilio gwaith da y sianel'

Awgrymodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, na fyddai Llywodraeth y DU yn camu fewn.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni fyddwn fel arfer yn ymyrryd yn uniongyrchol", medd David TC Davies

Dywedodd: "Byddai'n eithaf digynsail i weinidogion Llywodraeth y DU gymryd rhan mewn dyfarnu cwynion adnoddau dynol sydd wedi digwydd o fewn sefydliad cyfryngol, er ei fod yn un sy'n cael ei reoleiddio gan y llywodraeth.

"Yn amlwg mae'r DCMS yn ymwybodol iawn o hyn, fel finnau, a byddan nhw wedi gweld yr adroddiadau - fel rydw i wedi gweld a chlywed pob math o bethau, ond yn y pen draw ni fyddwn fel arfer yn ymyrryd yn uniongyrchol," ychwanegodd Mr Davies.

Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo hyder yn S4C i redeg ei materion ei hun, dywedodd Mr Davies ei fod yn "hyderus fod S4C wedi cynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel iawn".

Ond ychwanegodd ei fod yn "drist fod y ddadl hon a'r materion hyn yn tanseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud gan y nifer fawr o bobl sy'n gweithio i S4C".