Â鶹ԼÅÄ

Elusennau yn rhybuddio am argyfwng ariannu sy'n bygwth gwasanaethau

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn edrych trwy'r ffenestrFfynhonnell y llun, Getty Images

"Welais i ddim ffordd allan ar wahân i ddigartrefedd neu ladd fy hun."

Dyna asesiad Steven Lewkowicz o Abertawe o'i sefyllfa ei hun nes i elusen gamu i'r adwy i'w helpu.

Roedd y dyn 24 oed mewn dyled o £3,000, wedi gwario ei holl gynilion o £5,000 ac roedd ganddo nifer o gyflyrau niwrolegol oedd yn golygu ei fod yn cael trafferth gwybod ble a sut i ddod o hyd i gefnogaeth.

Roedd yn siarad â rhaglen Â鶹ԼÅÄ Politics Wales wrth i elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru rybuddio am argyfwng ariannu sy'n bygwth y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Fe gafodd Steven drafferthion iechyd meddwl pan oedd yn y brifysgol a threuliodd gyfnod yn ddigartref. Ers hynny mae wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

Cafodd gymorth gan yr elusen ddigartrefedd Llamau lle trefnwyd iddo fod ar Gredyd Cynhwysol gan weithiwr cymorth, a dyna, yn ôl Steven, "yn rhannol pam rydw i dal yma".

'Storm berffaith'

Ond mae Llamau ac elusennau eraill yng Nghymru yn wynebu'r hyn y mae un ohonyn nhw wedi'i ddisgrifio fel "storm berffaith" o argyfyngau - y cyfan yn digwydd ar yr un pryd.

Mae Covid, prinder arian cyhoeddus, argyfwng costau byw, cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol - sy'n golygu y bydd costau staffio'n codi - a'r argyfwng ynni i gyd wedi cyfuno i roi un cur pen mawr i'r sector.

Mae diwedd cyllid Ewropeaidd ers Brexit hefyd wedi achosi problemau.

Disgrifiodd Llamau y Gronfa Ffyniant Gyffredin a weinyddir gan Lywodraeth y DU fel un "anhygoel o gymhleth" gyda chynigion am arian yn gorfod mynd trwy nifer o awdurdodau lleol neu ranbarthau yn hytrach nag un cais.

Dywedodd Llywodraeth y DU mewn datganiad bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i datganoli i awdurdodau lleol a'i bod yn rhoi'r cwmpas i arweinwyr lleol ymateb i flaenoriaethau lleol a chefnogi anghenion cymunedau ledled Cymru.

Mae elusennau Cymreig bellach yn rhybuddio am y sefyllfa ariannol anoddaf mae nifer ohonyn nhw erioed wedi'i hwynebu.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 40% (ychydig dros £500m) o gyllid elusennau Cymru yn dod o gronfeydd y sector cyhoeddus - Llywodraeth y DU a Chymru, byrddau iechyd a chynghorau lleol. Daw'r 40% arall o roddion cyhoeddus.

Mae elusennau yn paratoi ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf - a gyhoeddir ar 19 Rhagfyr - gyda gweinidogion eisoes wedi gwneud "toriadau mewn argyfwng" yn ystod y flwyddyn eleni.

Dywedodd Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r corff ymbarél Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, nad oedd Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU yn "unrhyw fath o achubwr" gyda'i ffocws ar doriadau treth yn hytrach na gwariant y sector cyhoeddus.

O ran Llywodraeth Cymru, mae'n meddwl bod "rhaid iddynt fod yn gwario ar yr agenda ataliol ac atal pobl rhag troi i fyny mewn argyfwng".

Mae gan Llamau hefyd bryderon penodol am y Grant Cynnal Tai, yr amcangyfrifir ei fod £24m yn llai i'r sector mewn termau real nag yr oedd 13 mlynedd yn ôl oherwydd chwyddiant.

"Rydyn ni eu hangen nhw (Llywodraeth Cymru) i flaenoriaethu'r sector," meddai cyfarwyddwr gweithredol Llamau, Sam Lewis.

Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth y DU edrych eto ar y setliad cyllid y mae'n ei roi i Fae Caerdydd.

'Y setliad cyllid mwyaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cael y setliad cyllid mwyaf gan Lywodraeth y DU yn hanes datganoli. Rydym yn darparu setliad o £18 biliwn y flwyddyn, sef y swm uchaf erioed, sy'n dal i gynyddu mewn termau real dros gyfnod adolygu Gwariant 2021."

Derbyniodd Llywodraeth Cymru £305m ychwanegol mewn symiau canlyniadol Barnett yn Natganiad yr Hydref.

Dywedodd llefarydd fod elusennau yn cael eu cefnogi drwy Gynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn cydnabod y pwysau aruthrol sy'n wynebu gwasanaethau cymorth tai rheng flaen a phwysigrwydd eu gwaith.

"Dyma pam ein bod wedi cynnal y cynnydd blaenorol yng nghyllideb y Grant Cynnal Tai eleni fel ei fod yn parhau ar £166.763m, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol hynod o anodd," meddai'r llefarydd.

Plant y Cymoedd

Mae llif arian yn mynd at graidd y pryderon i elusen Plant y Cymoedd, sy'n cynnal prosiectau cymunedol "o'r crud i'r bedd".

Daw traean o'i drosiant o arian cyhoeddus ac maent yn sylweddoli bod cyllid yn gyfyngedig.

Dywedodd Prif Weithredwr Plant y Cymoedd, Elise Stewart, "Mae gen i ofn, wrth gwrs mae gen i ofn. Mae gen i ofn ar gyfer y cymunedau, y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny."

Mae hi eisiau i'r ddwy lywodraeth ddeall a gwerthfawrogi gwerth gwasanaethau ataliol pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau ariannu a bod peidio â gwneud hynny'n aml yn golygu "lefelau uwch o ymyrraeth yn nes ymlaen sy'n fwy costus ac yn llai effeithiol yn ôl pob tebyg".

"Mae pobl ifanc yn cael trafferthion," meddai Steven.

"Yr argyfwng arian, cynghorau'n mynd yn fethdalwyr, pobl yn dlawd - maen nhw'n mynd trwy uffern.

"Rwy'n enghraifft o rywun oedd angen help. Ond yn bendant mae mwy fel fi."

Oedodd... "Mae yna rai gwaeth eu byd na fi."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y Â鶹ԼÅÄ.

Pynciau cysylltiedig