Tom Jones i berfformio yn Eisteddfod Llangollen 2024

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Tom Jones yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2024.

Y canwr 83 oed o Bontypridd fydd yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol prif wythnos yr Eisteddfod ar 2 Gorffennaf.

Bydd enwau cyfarwydd eraill fel Katherine Jenkins a Gregory Porter hefyd yn perfformio mewn cyngherddau yn ystod y brif wythnos.

Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal yn Llangollen ers 1947 ac mae pobl ledled y byd yn ymweld yn flynyddol i gystadlu.

Mae'r Eisteddfod eisoes wedi cyhoeddi y bydd y Manic Street Preachers hefyd yn perfformio yn ystod yr ŵyl.

Maen nhw'n perfformio y penwythnos cyn y brif wythnos, tra bod artistiaid eraill fel Madness, Kaiser Chiefs, Paloma Faith, Jess Glynne a Nile Rodgers & CHIC eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer perfformiadau tebyg.