Â鶹ԼÅÄ

Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 1-1 Twrci

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams, Ethan Ampadu a Ben DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Neco Williams, Ethan Ampadu a Ben Davies yn cymeradwyo cefnogwyr ar ddiwedd y gêm

Mae Cymru wedi methu â sicrhau lle uniongyrchol yn rowndiau terfynol Euro 2024 yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Twrci yng ngêm ragbrofol olaf yr ymgyrch.

Ond y gwirionedd yw na fyddai buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn ddigon beth bynnag gan fod Croatia wedi trechu Armenia i orffen yn ail i Dwrci ar frig Grŵp D.

Ar ôl darfod yn drydydd yn y grŵp bydd yn rhaid i Gymru gystadlu yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Bydd Cymru'n cael gwybod ddydd Iau, am 11:00 pan ddaw'r enwau o'r het pwy fydd eu gwrthwynebwyr - Y Ffindir, Wcráin neu Wlad yr Iâ.

Er mwyn sicrhau'r ail safle eu hunain roedd yn rhaid i dîm Rob Page drechu Twrci a gobeithio y byddai Croatia'n gollwng pwyntiau yn eu gêm gartref yn Zagreb yn erbyn Armenia.

Os gafodd Cymru'n dechrau gwaethaf posib i'r gêm gyfartal yn erbyn Armenia brynhawn Sadwrn trwy ildio gôl gynnar, fe ddigwyddodd y gwrthwyneb yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Yn y seithfed munud, fe basiodd Jordan James y bêl i Neco Williams a'i groesodd o'r chwith tu mewn i bostyn pellaf y rhwyd a doedd dim gobaith i'r golwr, Ugurcan Cakir, ei hatal.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Neco Williams ar ôl sgorio i roi Cymru ar y blaen

Roedd hi'n hanner da i Gymru, er i Dwrci sicrhau mwy o feddiant ym munudau olaf yr hanner cyntaf, ond er sawl ymdrech doedd dim rhagor o goliau cyn yr egwyl.

Fe gafodd Brennan Johnson garden felen am ddadlau gydag un o chwaraewyr Twrci wedi un o dair apêl aflwyddiannus am gic gosb, ac roedd yna achos cryf dros yr apêl yn achos trosedd yn ei erbyn yntau.

Ond roedd y ffaith bod Croatia, fel Cymru, ar y blaen yn Zagreb o gôl i ddim, yn tanlinellu i ba raddau roedd ffawd Cymru allan o'u dwylo eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Samet Akaydin yn taclo Brennan Johnson

Roedd yna symudiad slic ar ddechrau'r ail hanner pan fu'n rhaid atal ergydiad gan Johnson, ac roedd yna apêl aflwyddiannus arall am gic o'r smotyn wedi tacl ar Harry Wilson.

Doedd y gwrthwynebwyr heb boeni Danny Ward lawer yng ngôl Cymru ond roedd angen ymateb chwim i atal peniad Samet Akaydin wedi bron i awr ar y cloc, ac yn raddol roedd rhaid i Gymru wneud mwy a mwy o waith amddiffynnol.

A phan apeliodd Twrci, yn y 69fed munud, am gic gosb fe gytunwyd wedi golwg ar y VAR bod capten Cymru, Ben Davies, wedi cyflawni trosedd ar Kenan Yildiz.

Fe rwydodd Yusuf Yazici yn rhwydd o'r smotyn gan ddod â'r gêm yn gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Broadhead a Salih Ozcan yn ceisio cael meddiant o'r bêl

Roedd rhwystredigaeth i'w weld ar wynebau rhai o chwaraewyr Cymru ond doedd eu chwarae ddim cystal yn yr ail hanner ac roedd Twrci'n amlygu pam mai nhw oedd y tîm cyntaf i sicrhau lle otomatig yn y rowndiau terfynol.

Fe darodd Johnson bas gan David Brooks yn erbyn y postyn ac i mewn i'r rhwyd ond roedd yn camsefyll o drwch blewyn a doedd y gôl ddim yn cyfri.

Daeth Kieffer Moore i'r maes gyda chwe munud ar y cloc ond er ymdrechion gorau Cymru cyn y chwiban olaf gôl yr un oedd canlyniad terfynol ymgyrch ddigon anghyson.

1-0 oedd y sgôr yn Zagreb a'r gôl honno'n ddigon i gadw Croatia yn yr ail safle ac ar eu ffordd i'r rowndiau terfynol.